Eluned Morgan (gwleidydd)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Eluned Morgan (gwahaniaethu).
Gwleidydd a oedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru o 1999 i 2009, yn cynrychioli'r Blaid Lafur yw Eluned Morgan (ganed 16 Chwefror, 1967).
Ganed hi yng Nghaerdydd a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Glantâf, Atlantic College a Phrifysgol Hull. Bu'n gweithio fel ymchwilydd i S4C a'r BBC ac fel Stagiaire yn y Senedd Ewropeaidd yn 1990. Etholwyd hi yn Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 1994, yr ASE ieuengaf ar y pryd.
| Senedd Ewrop | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: David Morris |
Aelod Senedd Ewrop dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 1994 – 1999 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
| Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru 1999 – 2009 gyda Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock ac Eurig Wyn (1999-2004) |
Olynydd: John Bufton Jill Evans Kay Swinburne Derek Vaughan |