Ymgyrch Senedd i Gymru

Oddi ar Wicipedia
Ymgyrch Senedd i Gymru
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegannibyniaeth Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMegan Lloyd George Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mudiad amhleidiol gyda'r nod o ennill senedd lawn i Gymru yw Ymgyrch Senedd i Gymru. Lawnsiwyd yr ymgyrch yn 1951 dan gadeiryddiaeth Megan Lloyd George (AS Rhyddfrydol Ynys Môn ar y pryd).

Yn 1957 cyflwynwyd deiseb yn galw am senedd ddeddfwriaethol etholedig wedi'i harwyddo gan tua 250,000 o bobl—canran sylweddol iawn o boblogaeth Cymru—i senedd San Steffan gan Goronwy Roberts (AS Llafur Caernarfon).

Daeth yr Ymgyrch i'r amlwg eto gyda'r refferendwm yn 1979. Ailsefydlwyd yr ymgyrch ar 26 Tachwedd 1988 a bu'n weithgar iawn yn y 1990au. Newidiwyd yr enw Saesneg o Campaign for a Welsh Assembly i Campaign for a Welsh Parliament yn 1993.

Cynhaliwyd 'Cynhadledd Democratiaeth' yn Llandrindod yn 1994 gyda tua 250 o bobl yn cynrychioli sawl mudiad, eglwys, undeb ac awdurdod lleol yn cymryd rhan a rhoddwyd cyfres o hysbysebion yn y papurau newydd yn galw am senedd ddatganoliedig i Gymru.

Ar ôl i Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu, mae'r Ymgyrch yn galw am ehangu grym y Cynulliad i'w droi'n senedd lawn gyda grym deddfwriaethol fel Senedd yr Alban a Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), tt. 634-5.
  • Alan Burt Philip, The Welsh Question: Nationalism in Welsh Politics 1943-70 (1975)