Gwleidyddiaeth Cymru
| Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar: |
|
|
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
Mae gwleidyddiaeth Cymru yn adlewyrchu hanes y wlad a'i chyflwr cymdeithasol, economaidd, ieithyddol a gwleidyddol presennol fel gwlad a dyheadau cenedl y Cymry. Er bod gan Gymru lywodraeth ddatganoledig, nid yw'n wlad sofran, ac mae'n anorfod fod rhai agweddau ar ei gwleidyddiaeth yn gorgyffwrdd â gwleidyddiaeth y DU yn gyffredinol a hefyd â gwleidyddiaeth ehangach yr Undeb Ewropeaidd.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru [golygu]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff datganoledig sy'n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Sefydlwyd y Cynulliad yn 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad (Aelod Cynulliad - AC). Mae 40 o'r aelodau yn cynrychioli etholaeth un aelod, ac mae'r 20 sy'n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pump etholaeth rhanbarthol yng Nghymru. Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor o bedair mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf yn 1999, 2003 a 2007.
Dirprwyir pwerau gweithredol y Cynulliad i Brif Weinidog Cymru. Dirprwya'r Prif Weinidog yn ei dro gyfrifoldeb am gyflawni'r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n ffurfio'r Cabinet. Rheolir gweithgareddau'r Cynulliad gan y Llywydd, sydd ei hun yn Aelod Cynulliad.
Prif gorff ymgynghorol ar gyfer addysg y Cynulliad yw'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.
Cymru yn Ewrop [golygu]
Mae Cymru yn ffurfio etholaeth yn Senedd Ewrop. Hyd 2004 roedd pump Aelod Senedd Ewrop yn cynrychioli'r wlad yno, ond yn y flwyddyn honno cwtogwyd cynrychiolaeth Cymru i bedwar aelod. Mae nifer o bobl yn cwyno am hyn ac yn cymharu sefyllfa Cymru a gwledydd llai fel Slofenia a Malta, sy'n aelodau llawn o'r Undeb Ewropeaidd. Etholir yr ASEau trwy'r method d'Hondt o gynrychiolaeth gyfrannol yn ôl rhestrau plaid. Am yr ASEau, gweler: Cymru (etholaeth Senedd Ewrop).
Gweler hefyd [golygu]
- Cenedlaetholdeb Cymreig
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Etholiadau yng Nghymru
- Heddychiaeth yng Nghymru
- Materion cymdeithasol yng Nghymru
- Prif Weinidog Cymru
- Swyddfa Cymru
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru
|
||||||||||||||
