Cantrefi a chymydau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cantrefi a chymydau Cymru
Llinellau agoriadol rhan o Lyfr Coch Hergest, sef rhestr o gymydau (chwith) a chantrefi.
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Unedau cwbl naturiol, organaidd oedd y rhaniadau Cymreig hyn, seiliedig ar nodweddion y tir yn bennaf. Dichon eu bod yn hŷn yn y bôn na'r hen deyrnasoedd eu hunain ac yn ogystal mae'r rhan fwyaf ohonynt yma o hyd fel unedau eglwysig.

Rhestrir isod y cantrefi a'r cymydau fesul teyrnas draddodiadol, er mwyn hwylustod. Sylwer bod y termau "cantref" a "chwmwd" yn annelwig braidd yn y llyfrau Cyfraith; dichon bod rhai o'r cymydau yn greadigaethau lled-ddiweddar fel unedau gweinyddol.

Cymru yn Oes y Tywysogion

Gwynedd (Gwynedd Uwch Conwy)[golygu | golygu cod]

Teyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Ar Ynys Môn:

Ar dir mawr Gwynedd:

Ychwanegwyd Penllyn ar ddechrau'r 13g a Chantref Meirionnydd yn 1256. Daeth arglwyddiaeth Dinmael yn rhan o Wynedd Uwch Conwy yn ddiweddarach yn ogystal.

Y Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy)[golygu | golygu cod]

Powys (Powys Fadog a Powys Wenwynwyn)[golygu | golygu cod]

Map cyffredinol o gantrefi Powys

Rhwng Gwy a Hafren[golygu | golygu cod]

Deheubarth[golygu | golygu cod]

Dyfed[golygu | golygu cod]

Ceredigion[golygu | golygu cod]

Ystrad Tywi[golygu | golygu cod]

Brycheiniog[golygu | golygu cod]

De-ddwyrain Cymru (Morgannwg, Glywysing a Gwent)[golygu | golygu cod]

Mae'r sefyllfa yn y de-ddwyrain yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gennym lawer o fanylion am ffiniau'r terynasoedd cynnar a hefyd am fod y Normaniaid wedi meddiannu rhan helaeth yr ardal yn gynnar a chreu eu harglwyddiaethau eu hunain yno.

Ardal Morgannwg[golygu | golygu cod]

Gwent[golygu | golygu cod]

Rhestr cantrefi a chymydau Llyfr Coch Hergest[golygu | golygu cod]

Hanes Cymru
Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Canol
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

WiciBrosiect Cymru


Yn ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd Cymru yn cael ei rannu'n wleidyddol yn bedair teyrnas fawr, sef Gwynedd, Powys, Deheubarth a Morgannwg. Roedd eu hanes yn ddigon cyfnewidiol ar adegau, â'u tiriogaeth yn ehangu neu'n crebachu neu'n cael ei rhannu'n unedau llai (fel yn achos Powys a rennid yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn, er enghraifft), ond er i'r teyrnasoedd hyn ddiflannu eu hunain yn sgîl dyfodiad y Normaniaid a'r gwncwest Seisnig, goroesodd eu hunedau sylfaenol, sef cantrefi a chymydau Cymru.Yn Llyfr Coch Hergest (1375-1425) ceir rhestr o'r cantrefi a'r cymydau a luniwyd ar ddiwedd y 14g, yn ôl pob tebyg.[1] Fodd bynnag, er ei bod yn ddogfen hanesyddol bwysig mae'r rhestr yn codi mwy o broblemau nag y mae'n datrys. Mae'r gwendidau amlwg yn cynnwys y ffaith fod y rhestr yn amwys iawn mewn rhannau ac yn cynnwys enwau lleoedd sy'n anodd i'w dehongli a'u lleoli'n foddhaol. Yn yr adran ar Wynedd, er enghraifft, lleolir Dinmael yn Llŷn a rhennir cantref Arfon yn ddau gwmwd "Is Conwy" ac "Uwch Conwy," ond nid yw Arfon yn gorwedd ar Afon Conwy ac mae'n amlwg fod yr ysgrifennwr wedi camddeall hen raniad sylfaenol teyrnas Gwynedd, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (rhaniad oedd wedi peidio bod erbyn ei gyfnod ef). Rhaid cofio hefyd fod yr hen drefn wedi ei disodli gan y siroedd newydd dros ran helaeth y wlad. Yn ogystal mae orgraff y rhestr yn eithriadol fympwyol hyd yn oed yn ôl safonau llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Rhoddir y testun yma yn yr orgraff wreiddiol gyda'r enwau mewn orfraff safonol lle bo hynny'n ymarferol.

Gwynedd[golygu | golygu cod]

Powys[golygu | golygu cod]

Maelienydd[golygu | golygu cod]

Buellt[golygu | golygu cod]

Elfael[golygu | golygu cod]

Brecheinawc (Brycheiniog)[golygu | golygu cod]

Ystrad Tywi[golygu | golygu cod]

Ceredigyawn (Ceredigion)[golygu | golygu cod]

Emlyn[golygu | golygu cod]

Cemeis[golygu | golygu cod]

Wartha (Gwarthaf)[golygu | golygu cod]

Deugledyf (Deugleddyf)[golygu | golygu cod]

Pennbrwc (Pembrwc)[golygu | golygu cod]

Pebideawc (Pebidiog)[golygu | golygu cod]

Ros (Rhos)[golygu | golygu cod]

Morgannwc (Morgannwg)[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. Gwenogvryn Evans (ed.), The Text of The Bruts from the Red book of Hergest (Oxford, 1890), pp. 407-412

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Caerdydd, 1969)