Catheiniog

Oddi ar Wicipedia
Catheiniog
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Deheubarth Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Tywi Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwidigada, Mabudrud, Mabelfyw, Caeo, Maenor Deilo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8808°N 4.062°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Catheiniog (sillafiad amgen: Cetheiniog). Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai cwmwd Catheiniog yn rhan ddeheuol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â'r Cantref Bychan, i'r de. Ffiniai â chymydau Gwidigada, Mabudrud, Mabelfyw, Caeo a Maenor Deilo yn y Cantref Mawr, ac â chwmwd Is Cennen i'r de yn y Cantref Bychan.

Gorweddai ar lan ogleddol Afon Tywi. Roedd yn cynnwys safle Castell y Dryslwyn, un o amddiffynfeydd mawr tywysogion Deheubarth. Yma hefyd roedd Llangathen, un o ganolfannau eglwysig pwysicaf Deheubarth, a gysylltir â Sant Cathen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.