Cantref Bychan

Oddi ar Wicipedia

Roedd y Cantref Bychan yn gantref yn ne-orllewin Cymru yn yr Oesoedd Canol. Gyda'r Cantref Mawr ffurfiai'r Cantref Bychan arglwyddiaeth Ystrad Tywi.

Roedd y cantref yn gadarnle i dywysogion Deheubarth yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Normaniaid yn ne Cymru. Ei brif gestyll oedd Llanymddyfri yn y gogledd a Chastell Carreg Cennen yn y de.

Collwyd meddiant ar y cantrefi gan dywysogion Deheubarth yn 1277 a daeth yn rhan o'r Sir Gaerfyrddin newydd.

Cymydau'r Cantref Bychan[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]