Cwmwd

Oddi ar Wicipedia

Ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Cwmwd, ac israniad o'r cantref. Mae'n ddigon tebygol i'r cwmwd gael ei greu oherwydd cynnydd yn y boblogaeth oddeutu 1050, ac felly daeth y cantref yn rhy fawr.

Roedd gan bob cwmwd lys barn a gynhelid yn y faerdref, prif ganolfan y cwmwd ac roedd ganddo hefyd ei ganolfan frenhinol. Goroesodd yr hen drefn Gymreig o gwmwd a llys ymhell wedi i Gymru golli ei hannibyniaeth. Ond wedi'r Deddfau Uno, statws yr hwndrwd Saesnig i lawer o gymydau a rhai cantrefi hefyd.

O'r gair cwmwd y ffurfiwyd y gair cyfarwydd 'cymydog': yn llythrennol "rhywun sy'n byw yn yr un cwmwd â chi".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Am restr o gymydau Cymru, gweler Cantrefi a Chymydau Cymru.