Cathen

Oddi ar Wicipedia
Cathen
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Mai Edit this on Wikidata
TadCawrdaf mab Caradog Freichfras Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Cathen (weithiau Cathan) (fl. diwedd y 6g).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 17 Mai.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl yr achau, roedd yn fab i Gawrdaf fab Caradog Freichfras. Ei frodyr oedd y seintiau Medrod (ni ddylir ei gymysgu â'r Medrawd Arthuraidd) ac Iddon.[1]

Sefydlodd llan, yn Llangathen, Sir Gaerfyrddin. Ceir Ffynnon Garthen ar fferm yn y plwyf hwnnw. Yn ôl rhai ffynonellau cafodd ei gladdu ar Ynys Bŷr, sy'n awgrymu fod ganddo gysylltiad â'r fynachlog gynnar yno.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).