Llangathen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llangathen. Saif ychydig i'r gorllewon o dref Llandeilo, ac i'r de o'r briffordd A40 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin. Mae Afon Tywi ychydig i'r de o'r pentref. Bu pobl yn byw yn yr ardal ers o leiaf Oes yr Haearn, ond datblygodd pentref Llangathen ei hun o dan nawdd teulu Phillipse o Aberglasney yn ystod y 19eg ganrif. Dyddia'r eglwys o'r Canol oesoedd, ac mae'n gysegredig i Sant Cathen. Ceir cofeb nodedig i'r Esgob Anthony Rudd o Dyddewi ynddi, sy'n dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif.

Gerllaw mae gerddi enwog Aberglasney, ac ychydig i'r dwyrain mae Castell Dinefwr.

Cysylltiad allanol[golygu]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangathen (pob oed) (507)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangathen) (257)
  
51.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangathen) (331)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangathen) (70)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013