Llanboidy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanboidy Isaf

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanboidy, 6 km i'r gogledd o Hendy-gwyn ar Daf.

Pentref[golygu]

Ceir dwy ran i bentref Llanboidy, sef Llanboidy Uchaf a Llanboidy Isaf.

Ger y pentref ceir mwnt Llanboidy; codwyd y castell mwnt a beili hwn yng nghyfnod y Normaniaid.

Cymuned[golygu]

Mae 957 o bobl yn byw yng nghymuned Llanboidy (sy'n cynnwys pentrefi Llanglydwen, Cefn-y-pant a Rhydowen hefyd), 50% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Yng nghymuned Llanboidy y saif Abaty Hendy-gwyn ar Daf.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanboidy (pob oed) (1,061)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanboidy) (450)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanboidy) (635)
  
59.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanboidy) (128)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013