Cynghordy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Cynghordy. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Llanwrtyd i'r gogledd-ddwyrain a Llanymddyfri i'r de-orllewin. Yr hen enw ar y pentref yw Llanfair-ar-y-bryn.

Saif ar lan Afon Brân. I'r dwyrain mae Coedwig Crychan. Mae ffyrdd llai yn ei gysylltu â phentref Tirabad i'r dwyrain a Rhandirmwyn dros y bryniau i'r gorllewin.

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato