Bronwydd, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Bronwydd neu Bronwydd Arms. Saif tua thair milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin, ar y briffordd A484 rhwng Caerfyrddin a Chynwyl Elfed, yn nyffryn Afon Gwili. Mae Cymuned Bronwydd yn cynnwys y pentref ei hyn a phentrefi bychain Cwmdwyfran a Pentre Morgan. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Celynin.

Daw'r enw yn wreiddiol o enw Ystad y Bronwydd ger Castell Newydd Emlyn, oedd yn berchen llawer o dir yn yr ardal yma rai canrifoedd yn ôl. Adeiladwyd tafarn y Bronwydd Arms, a rhoddodd honno ei henw i'r pentref a'r ardal. Nid yw'r hen dafarn yn bod bellach, ond mae plac yn nodi ei safle.

[golygu] Cysylltiad allanol


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill