Brechfa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Brechfa

Pentref yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Brechfa. Fe'i lleolir tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin, ar y B4310 tua hanner ffordd rhwng Nantgaredig a Llansawel. Gorwedda Brechfa ar lan yr afon Pîb, un o ledneintau afon Cothi, ger y man lle llifa'r afon Marles (Marlais) i lawr o fryniau Llanfihangel-rhos-y-corn.

Enwir Fforest Brechfa ar ei ôl. Mae afon Cothi yn llifo heibio hanner milltir i'r dwyrain o'r pentref. Cysegrir eglwys Brechfa i Sant Teilo. Dyddia'r adeilad presennol i 1893 ond saif ar safle eglwys gynharach. Bu'r bardd ac arweinydd radicalaidd William Thomas (1834-1879) yn byw ym Mrechfa. Adwaenir ef yn well wrth ei enw barddol Gwilym Marles, ar ôl afon Marles.

Ceir llwybr beicio yno sy'n addas i ddechreuwyr a theuluoedd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: