Llanishmel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanishmel o Gastell Llansteffan, dros yr aber.

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanishmel (hefyd Llanismel weithiau; Saesneg: St Ishmael).[1] Fe'i lleolir ar lan aber afon Tywi yn ne'r sir tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Cydweli ar ffordd wledig.

Enwir yr eglwys y plwyf a'r pentref ar ôl Sant Ishmel (neu Ishmael).

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,311, gyda 64.38% yn medru Cymraeg. Mae'n cynnwys pentref Glan-y-fferi a'r ardal wledig o'i gwmpas.

Cyfeiriadau [golygu]

Cysylltiad allanol [golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanishmel, o safle we Cyngor Sir Gâr


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato