Llan-gain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y pentref yn Swydd Henffordd, gweler Kentchurch.
Capel Smyrna, Llangain

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-gain[1] (hefyd: Llangain). Saif ar y ffordd B4312 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1871 i gymeryd lle yr hen eglwys ganoloesol. Mae wedi ei chysegru i Santes Cain, un o 24 merch Brychan Brycheiniog. Mae yma safle castell canoloesol cynnar, Hengastell, ac adfail o'r 15fed ganrif a elwir yn Castell Foel neu Green Castle, oedd mewn gwirionedd yn blasdy yn perthyn i'r teulu Reed.

Pan yn fachgen, arferai'r bardd Dylan Thomas ddod ar ei wyliau i blasdy Fernhill yn y plwyf; yn ddiweddarach ysgrifennodd ei gerdd adnabyddus Fernhill.

Cyfeiriadau[golygu]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llan-gain (pob oed) (573)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-gain) (248)
  
44%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-gain) (418)
  
72.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llan-gain) (106)
  
40.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol, ond dim tag <references/>