Llangyndeyrn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr eglwys

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llangyndeyrn (Seisnigiad: Llangendeirne ar rai mapiau). Saif ar y ffordd B4306 ar lan Afon Gwendraeth Fach, i'r de-ddwyrain o dref Caerfyrddin. Fe'i enwir ar ôl Cyndeyrn.

Heblaw pentref Llangyndeyrn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Carwe, Pont-iets (rhan), Meinciau, Pum Heol, Crwbin, a Phontantwn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,952, gyda 76.53% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Gweler hefyd [golygu]

Dolenni allanol [golygu]


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato