Rhydcymerau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleolir pentref bach Rhydcymerau 8.5 cilometr i'r de-ddwyrain o Lanybydder yr ochr draw i Fynydd Llanybydder, yn Sir Gaerfyrddin, de-orllewin Cymru.

Rhydcymerau yw pentref genedigol y llenor a'r cenedlaetholwr D.J. Williams; un o'r tri a weithredodd yn erbyn ysgol fomio Penyberth ym 1936. Mae dwy gyfrol ei hunangofiant, sef Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959) yn cynnig portread byw o fywyd yn y pentref bach ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Llanybydder.

Mae gan Rhydcymerau gapel, tŷ tafarn ac ysgol gynradd.