Maenordeilo (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Maenordeilo (Seisnigiad: Manordeilo). Fe'i lleolir ar y ffordd A40 tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Landeilo i gyfeiriad Llanymddyfri.

Enwir y pentref ar ôl cwmwd Maenor Deilo. Hwn oedd safle prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol.

Mae'r pentref yn rhan o gymuned Maenordeilo a Salem ac mae'n gorwedd ym mhlwyf eglwysig Llandeilo Fawr. Llifa Afon Tywi heibio i'r de o'r pentref.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato