Caerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 51°51′22″N 4°18′58″W / 51.856°N 4.316°W / 51.856; -4.316
Caerfyrddin
Carms 1.jpg
Caerfyrddin is located in Sir Gaerfyrddin
Caerfyrddin

 Caerfyrddin yn: Sir Gaerfyrddin
Poblogaeth 14,648 (Cyfrifiad 2001)
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SN415205
Cymuned Caerfyrddin
Prif ardal Sir Gaerfyrddin
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CAERFYRDDIN
Rhanbarth cod post SA31-33
Cod deialu 01267
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Dwyrain Caerfyrddin a DinefwrGorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Cynulliad Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Gaerfyrddin

Caerfyrddin yw tref sirol Sir Gaerfyrddin, Cymru, ar lan Afon Tywi. Mae ganddi boblogaeth o tua 20,000. Caerfyrddin yw'r tref hynaf yng Nghymru. Mae gan y dref nifer o safleoedd treftadaeth sydd wedi goroesi dros y blynyddoedd, mae rhain yn cynnwys yr amffitheatr Rufeinig ac rheilffordd y Gwili sydd ar agor i dwristiaid erbyn hyn. Mae gan yr ardal gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'r ardal yn gartref i bencadlys Heddlu Dyfed-Powys, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Coleg y Drindod, Caerfyrddin ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru.

Cynnwys

[golygu] Hanes

Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Maridunum. Yn ddiweddarach cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yng nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili.

Adeiladwyd castell yno yn y 12fed ganrif ac mae peth o'r olion yno o hyd. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn y 13eg ganrif ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf, ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, sefydliad crefyddol Awstinaidd. Yn 1234 cafodd y tywysog ifanc Rhys Gryg o Ddeheubarth glwyf angerddol mewn brwydr ger y dref a bu farw ymhen ychydig yn Llandeilo.

Ar 30 Mawrth, 1555, yn nheyrnasiad Mari Tudur, cafodd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ei losgi wrth y stanc yn sgwar y farchnad ar ôl cael ei gyhuddo o heresi a dangos gormod o gariad tuag at y Cymry.

Adlewyrchir pwysigrwydd Caerfyrddin ym myd amaeth Cymru gan y ffaith y cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei sefydlu yn y dref yn 1955.

Mae Coleg y Drindod Caerfyrddin yn y dref hefyd.

[golygu] Enwogion

[golygu] Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911 a 1974. Am wybodaeth bellach gweler:

[golygu] Lluniau

Gweler hefyd:

[golygu] Gefeilldref

Mae Caerfyrddin wedi ei hefeillio â thref Lesneven yn Llydaw.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill