Tudur Aled

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb i Tudur Aled ac enwogion eraill o'r fro, yn Llansannan

Roedd Tudur Aled (c. 1465 - c. 1525) yn fardd Cymraeg sy'n cael ei ystyried gan lawer yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr. Ymddengys o'r marwnadau a ganwyd iddo gan feirdd eraill ei fod yn uchelwr ei hun.

Bywyd[golygu]

Ganed y bardd ym mhlwyf Llansannan, yn awr yn Sir Ddinbych, ac ymddengys mai Robert oedd enw ei dad ac Ithel oedd enw ei daid. Ei athro barddol oedd ei ewythr, Dafydd ab Edmwnd. Roedd yn un o gomisiynwyr Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523. Ei brif noddwyr oedd teulu Salbriaid Lleweni, gerllaw Llansannan, ond crwydrodd trwy Gymru yn canu i uchelwyr a gŵyr eglwysig, megis Dafydd ab Owain, Esgob Llanelwy. Roedd Syr Rhys ap Thomas, a fu farw yn 1525, yn un o'i noddwyr, a chan na chanodd Tudur Aled farwnad iddo, credir ei fod wedi marw tua'r un adeg. Bu farw yng Nghaerfyrddin, efallai ar ymweliad â Syr Rhys yn ei lys yno.

Cerddi[golygu]

Roedd Tudur Aled yn fardd cynhyrchiol iawn ac yn feistr llwyr ar y gynghanedd a'r mesurau caeth. Cedwir o leiaf 125 o gywyddau ganddo, gyda chanran helaeth yn gerddi mawl. Roedd yn gwybod sut i ddefnyddio'r hen ddelweddau i'r dim ond arbrofai hefyd gyda delweddau a chyffelybiaethau newydd. Yn ogystal â'i werth llenyddol amlwg mae ei waith yn ddrych gwerthfawr i gyfnod o newid mawr ym mywyd Cymru.

Mae esgyll un o'i englynion wedi dod yn ddiarhebol:

Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.

Mawr fu'r golled ar ei ôl ymysg y beirdd. Canwyd marwnadau iddo gan Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Lewys Daron, Lewys Môn, Lewys Morgannwg, Morys Gethin, Raff ap Robert, Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan, a Siôn Ceri.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyhoeddwyd ei waith mewn dwy gyfrol: