Lleweni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen adeiladau ym Mhlas Lleweni, 2006.
Y fynediad i Lewenni.

Plasty yn Sir Ddinbych yw Lleweni neu Blas Lleweni. Fe'i lleolwyd tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych ar lan Afon Clwyd. Bu'n gartref i aelodau teulu'r Salsbriaid o tua 1066 hyd 1748. Cyn hynny, Llysmarchweithian oedd enw'r plasdy a'i berchennog oedd Marchweithian.

Yn ôl Hester Piozzi (1741 - 1821) roedd dros 200 o ystafelloedd yn y plas ar un adeg.

Rhai perchnogion[golygu]

  • Syr John Salusbury
  • Wedi marwolaeth Thomas Salusbury o Leweni yn 1586, aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd.
  • Syr John Salusbury, (m. 1612), a briododd merch Henry Stanley, 4ydd Iarll Derby. Yna i'w fab
  • Syr Henry Salusbury, Barwn Cyntaf. (m. 1632), yna i'w fab
  • Syr Thomas Salusbury, Ail Farwn (m. 1643), yna i'w fab
  • Syr Thomas Salusbury, Trydydd Barwn (m. 1658) ac yna i'w frawd
  • Syr John Salusbury, Pedwerydd Barwn (a'r olaf), a fu farw heb etifedd yn 1684. aeth perchnogaeth y plasdy i'w chwaer
  • Hester Salusbury, gwraig Syr Robert Cotton o Combermere a Lleweni, Barwn cyntaf, (m. 1712). Yna i'w fab.
  • Syr Thomas Cotton of Combermere and Lleweni, Ail farwn (m. 1715). Ac yna i...
  • Syr Robert Salusbury Cotton, Trydydd Barwn (m. 1748). Dim etifedd ac aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd Sir Lynch Cotton, ac yna i'w fab yntau
  • Syr Robert Salusbury Cotton 5ed Bart, a'i fab Stapleton Cotton, 1st Viscount Combermere - a werthodd y plasdy i William Lewis Hughes, Barwn Dinorben.

Dymchwel rhannau[golygu]

Dymchwelwyd rhannau o Blas Lleweni gan William Lewis Hughes er mwyn atgyweirio plasdy arall a oedd ganddo, sef Neuadd Cinmel (Sylwer: nid Parc Cinmel).

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]