Iorwerth Beli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o'r cynharaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Iorwerth Beli (bl. dechrau'r 14eg ganrif). Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi ond mae honno'n rhoi darlun difyr o lys Esgob Bangor a'r cystadlu am nawdd yno ar ddechrau'r 14eg ganrif.

Bardd o Wynedd oedd Iorwerth Beli, naill ai o Arfon neu Fôn. Ni wyddom fawr dim arall amdano. Mae ei unig gerdd yn awdl sy'n cwyno'n dost am fod Esgob Bangor wedi troi at noddi cerddorion Seisnig iselradd (minstrels) ar draul y beirdd Cymraeg. Mae'n dra thebygol mai Anian Sais (Esgob Bangor o 1309 hyd ei farw yn 1327) oedd yr esgob hwnnw.

Mae'r bardd yn edliw'r esgob am droi ei gefn ar yr etifeddiaeth Gymraeg ac yn ddrych i argyfwng y gyfundrefn farddol yn y degawdau yn dilyn cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffudd. Cyfeiria'n hiraethus at feirdd llys mawr Gwynedd cyn y Goncwest, fel Cynddelw Brydydd Mawr a Dafydd Benfras. Mae ei ddirmyg at y crach-gerddorion Seisnig yn huawdl. Diddorol hefyd i haneswyr llên a llên gwerin Cymru yw'r adran yn y gerdd sy'n sôn am y chwedl am y brenin Maelgwn Gwynedd yn gorfodi'r beirdd a'r cerddorion i nofio dros Afon Menai i brofi eu gallu; y beirdd a enillodd a chawsant ffafr y brenin wedyn ar draul y cerddorion. Dyma un o ddau gyfeiriad at y chwedl hon; ceir y llall mewn cerdd a briodolir i Daliesin ond sy'n perthyn i ran olaf yr Oesoedd Canol.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)