Afon Menai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sianel dŵr hallt neu gulfor yng ngogledd-orllewin Cymru rhwng Ynys Môn ac Arfon (Gwynedd) ar y tir mawr yw Afon Menai. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Bae Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Penmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy. Mae'r llanw yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll Pwll Ceris.

Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir Caernarfon, Porth Dinorwig a Llanfairfechan, ac ar yr ynys ceir Porthaethwy a Biwmaris.

Hanes[golygu]

Afon Menai a Phont Y Borth

Yng nghwrs hanes Cymru gwelid sawl brwydr ar y Fenai neu ar ei glannau, o gyfnod y Rhufeiniaid pan wynebwyd lleng Suetonius Paulinus gan derwyddon a gwragedd Môn i Oes y Tywysogion. Un o fwriadau'r Saeson wrth godi castell Biwmaris a chastell Caernarfon oedd gwarchod y fynedfa i'r Fenai o'r ddau ben.

Ecoleg[golygu]

Am fod y llanw mor anghyffredin a'i dyfroedd mor gysgodedig, mae gan y Fenai ecoleg amrywiol ac unigryw. Ceir nifer o ysbynau môr yno. Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Môr Prifysgol Cymru, Bangor yn rhannol er mwyn ei hastudio. Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Mae llawer o'r tir ar lannau Menai ar ochr Ynys Môn, rhwng Ynys Llanddwyn a Phorthaethwy, eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Galeri[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cysylltiadau allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: