Teyrnas Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hanes Cymru
Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Tywyll
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

Porth Cymru
Baner Gwynedd
Mae'r erthygl hon am y deyrnas hanesyddol Gwynedd. Am y sir fodern gweler Gwynedd.

Roedd Gwynedd yn un o brif deyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol. Yr oedd ei ffiniau yn amrywio, yn dibynnu pa mor nerthol oedd y brenin neu'r tywysog, ond yr oedd wastad yn cynnwys Arfon, Eryri, ac Ynys Môn. Yn draddodiadol roedd Gwynedd yn cael ei rhannu yn ddwy ranbarth: "Gwynedd Uwch Conwy" a "Gwynedd Is Conwy", gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ohonynt.

Mae traddodiad fod Cunedda Wledig a'i feibion wedi ymfudo i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, rhan deheuol Yr Alban yn awr, ac wedi sefydlu teyrnas Gwynedd. Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia. Mae carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys Penmachno sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffhau gwr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel "Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati", neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.

Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yn oes Maelgwn Gwynedd, ond yn nes ymlaen symudodd y prif lys i Aberffraw a disgrifir rheolwr Gwynedd fel "Tywysog Aberffraw" neu "Arglwydd Aberffraw".

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gwynedd[golygu]

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Map o Gymru yn yr Oesoedd Canol

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffudd y flyddyn ganlynol, daeth teyrnas Gwynedd i ben. Ceisiodd Owain Lawgoch hawlio teyrnas Gwynedd a Chymru yn 1372 a 1377, ac yr oedd gan Owain Glyndwr gysylltiadau teuluol â thywysogion Gwynedd hefyd.

Cantrefi a chymydau Gwynedd Uwch Conwy[golygu]

Roedd Gwynedd Uwch Conwy'n cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:

Llywelyn Fawr

Ar Ynys Môn:

Ar dir mawr Gwynedd:

Ychwanegwyd Cantref Meirionnydd yn 1256. Roedd Dinmael yn rhan o Wynedd yn ddiweddarach yn ogystal.

Am gantrefi a chymydau Gwynedd Is Conwy, gweler Y Berfeddwlad.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Cyfrol sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am seiliau teyrnas Gwynedd cyn cyfnod Ein Llyw Olaf, ynghyd â llyfryddiaeth helaeth.
  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984)

Gweler hefyd[golygu]


Teyrnasoedd Cymru Y Ddraig Goch
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg