Degannwy

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Deganwy)
Neidio i: llywio, chwilio

Tref fechan ym mwrdeistref sirol Conwy yw Degannwy (sillafiad amgen: Deganwy; llurguniad: Deganway). Gorwedd i'r de o Landudno, ac i'r dwyrain o dref Conwy, sydd gyferbyn iddi ar ochr arall Afon Conwy. Mae yno orsaf ar y rheilffordd sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno, tua milltir i'r de. O ran llywodraeth leol, mae'n rhan o gymuned Conwy.

Yr enw[golygu]

Ceir mwy nag un cais i esbonio'r enw. Un posibilrwydd yw ei fod yn deillio o enw'r Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr -wy terfynnol yn cynrychioli gwy sy'n golygu 'ystum, tro,' ac sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd (e.e. afon Elwy). Degannwy yw'r ffurf safonol a chynharaf, ond gwelir Deganwy yn aml hefyd. Clywir y ffurf Deganwa ar lafar weithiau, ac efallai taw hynny sy'n gyfrifol am y ffurf Seisnigaidd gyffredin Deganway.[1]

Yr hen enw ar "Deganwy Quay", yr hen harbwr ble saif gwesty newydd o'r un enw ydy Cored Maelgwn;[2] pysgodfa neb llai na’r brenin Maelgwn Gwynedd yn y 6ed ganrif.

Castell Degannwy gyda rhan o'r dref ac afon Conwy

Hanes[golygu]

Mae'n fwyaf nodedig am Gastell Degannwy, a oedd yn y chweched ganrif yn gadarnle Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd. Ymddengys mai Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yr adeg yma, ond yn ddiweddarach symudodd i Aberffraw ar Ynys Môn. Dyma un o brif ganolfannau Cantref Rhos. Adeiladwyd nifer o gaerau ar y bryn lle saif y castell dros y canrifoedd, gan gynnwys castell Normanaidd yn 1082, oedd yn perthyn i Robert o Ruddlan. Yn ddiweddarach adeiladwyd castell yno gan Llywelyn Fawr. Chwalwyd y castell yma, a defnyddiwyd llawer o'r meini i adeiladu Castell Conwy.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams, Enwau Lleoedd.
  2. Gwefan Llên Natur; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012

Gweler hefyd[golygu]