Erging

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Teyrnas Gymreig o'r cyfnod ôl-Rufeinig a'r Oesoedd Canol Cynnar a chantref canoloesol oedd Erging (ceir y ffurf hynafiaethol Ergyng mewn llyfrau Saesneg). Roedd ganddi berthynas agos â hanes Teyrnas Gwent. Yn ddiweddarach cafodd tiriogaeth yr hen deyrnas ei galw yn Archenfield gan y Saeson.

Hanes cynnar[golygu]

Gorweddai'r deyrnas yn bennaf yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.

Mae gwreiddiau'r deyrnas yn anscir. Mae'n bosibl ei bod yn cynrychioli ffin ddwyreiniol awdurdod y Silwriaid, y bobl Geltaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid. Bu Erging yn rhan o deyrnas Glywysing (dwyrain Morgannwg) a Gwent), ond ymddengys iddi ddod yn annibynnol yn ystod teyrnasiad Peibio Clafrog, ganol y 6ed ganrif. Taid Sant Dyfrig, esgob cyntaf Erging, oedd Peibio, yn ôl yr achau. Roedd Erging yn ganolfan bwysig i gwlt y sant yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Roedd cefnder Dyfrig, Gwrgan Fawr, yn un o frenhinoedd mwyaf grymus Erging a reolai ardaloedd Gwent a Morgannwg hyd at lannau afon Nedd. Ymddengys mai ei ŵyr Athrwys ap Meurig oedd teyrn olaf yr Erging annibynnol a syrthiodd yn ôl dan reolaeth teyrnas Gwent ar ôl ei farw yn y flwyddyn 655.

Daeth yr hen deyrnas yn gantref yn yr Oesoedd Canol.

Archenfield[golygu]

Rywbryd cyn i'r Normaniaid ddechrau ar eu goresgyniad, cipiwyd Erging gan y Saeson. Daethant i'w galw yn Archenfield, ond roedd ei statws yn bur niwlog: hyd at y Deddfau Uno yn 1536 roedd anscicrwydd cyfreithiol am ei statws gweinyddol fel rhan o Gymru neu ran o Loegr. Daeth yn rhan o Esgobaeth Henffordd pan fu Urban (1107-33) yn esgob Llandaf. Arosodd yr ardal yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig am ddegawdau yn wyneb y Diwygiad Protestannaidd.

Goroesiad y Gymraeg[golygu]

Arosodd yr iaith Gymraeg yn fyw yn yr ardal am ganrifoedd. Mae tystiolaeth arolwg Llyfr Domesday (1086) yn awgrymu cymdeithas gwbl Gymraeg, er i'r ardal fod ym meddiant y Saeson ers canrif neu ddwy. Ceir rhestr o brif drigolion Irchingeld (Archenfield=Erging) yn y flwyddyn 1303 mewn un o ysgroliau memoranda'r llys Seisnig sy'n awgrymu fod mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Gymry: allan o tua hanner cant o enwau mae tua 45 yn enwau Cymraeg, e.e. Gruffudd ap Dafydd o Dreredenog, Nest o Bengelli, a.y.y.b.[1] Parhaodd yr iaith i fod yn iaith gymunedol mewn rhannau o Erging tan o gwmpas dechrau'r 18fed ganrif a chofnodir siaradwyr Cymraeg lleol mor ddiweddar â chanol y 19eg ganrif.[2]

Brenhinoedd Erging[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Natalie Fryde (gol.), List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343 (Caerdydd, 1974), tt. 22-23.
  2. David Williams, A History of Modern Wales (Llundain, 1950; argraffiad newydd, 1982), tud. 11.

Ffynonellau[golygu]

  • Wendy Davies, The Llandaff Charters (Caerdydd, 1979)
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Caerlyr, 1982)
  • Natalie Fryde (gol.), List of Welsh entries in the Memoranda Rolls 1282-1343 (Caerdydd, 1974)
  • G. H. Doble, Lives of the Welsh Saints (Caerdydd, arg. newydd, 1971)
  • Raymond Perry, Anglo-Saxon Herefordshire (2002)
  • A. L. F. Rivet & Colin Smith, The Place-Names of Roman Britain (1979)
  • David Williams, A History of Modern Wales (Llundain, 1950; argraffiad newydd, 1982)


Teyrnasoedd Cymru Y Ddraig Goch
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg