Dogfeiling
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a thynnir o ganlyniad. Mae'r tag yma yn rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (06/12) |
| (y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) |
|
Yr oedd Dogfeiling yn deyrnas fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd.
Yn ôl traddodiad, ffurfiwyd teyrnas Dogfeiling gan Ddogfael, un o feibion Cunedda, brenin teyrnas Gwynedd. Bodolodd teyrnas Dogfeiling, a oedd yn fwy sylweddol na'r cwmwd diweddarach gyda thiriogaeth tua'r un maint â chantref Dyffryn Clwyd, o 445 tua o gwmpas y flwyddyn 700 pan gafodd ei hymgorffori yng Ngwynedd fel rhan o Wynedd Is Conwy (Y Berfeddwlad). Er nad yn fawr nid oedd yn ddibwys, ac ymddengys iddi fedru cystadlu â theyrnas Powys, i'r de-ddwyrain, yn y 7fed ganrif.
Yn yr Oesoedd Canol, Dogfeiling oedd y pwysicaf o ddau gwmwd Dyffryn Clwyd ac un o'r cyfoethocaf ei dir yn y gogledd. Ei chanolfan oedd Rhuthun. Roedd llawer o dir y cwmwd yn perthyn i esgobaeth Bangor.
| Teyrnasoedd Cymru | |
|---|---|
| Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg | |