Athrwys ap Meurig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin cynnar neu dywysog o deyrnas Gwent yn hanner cyntaf y 7fed ganrif a gysylltir â theyrnas Erging oedd Athrwys ap Meurig (tua 618 — tua 655).

Roedd Athrwys yn fab i'r brenin Meurig ap Tewdrig o Went (ac efallai Glywysing hefyd) a'i wraig Onbrawst (neu Onbraws), ferch Gwrgan Fawr, brein Erging (gorllewin Swydd Henffordd heddiw).

Rydym yn dibynnu bron yn gyfangwbl am y siarteri cynnar yn Llyfr Llandaf ac achau traddodiadol am ein gwybodaeth amdano. Yn ei hastudiaeth o siarteri Llandaf, mae Wendy Davies yn tybio fod Athrwys wedi marw yn 655, cyn ei dad Meurig, ac felly ni ddaeth yn frenin Gwent ei hun. Ond erys y posiblrwydd ei fod yn rheoli Erging trwy hawl ei fam yn ystod teyrnasiad ei dad, er na ellir profi hynny.

Ei fab oedd Morgan ab Athrwys (a adnabyddir fel Morgan Mwynfawr). Roedd yn frenin Teyrnas Morgannwg (a Gwent, Glywysing, ac Erging hefyd efallai). Fe'i olynwyd gan Ithel ap Morgan.

Ar seiliau digon arwynebol mae rhai ymchwilwyr poblogaidd diweddar yn ceisio uniaethu Athrwys/Arthwys ag Arthur. Awgrymwyd y cysylltiad gan yr hynafiaethwr lleol David Williams mor gynnar â 1796, yn ei gyfrol The History of Monmouthshire, ar sail y ffurf (anghywir) Arthwys ar enw Athrwys a chysylltiadau Gwent â'r Brenin Arthur chwedlonol. Ond ceir sawl dadl hanesyddol ac ieithyddol dros wrthod uniaethu Athrwys/Arthwys ag Arthur.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Wendy Davies, The Llandaff Charters (Caerdydd, 1979)
  • David Williams, The History of Monmouthshire (1796)