Normaniaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pobl o ogledd Ffrainc, â'u gwreiddiau yn Llychlyn (yn bennaf o Ddenmarc) oedd y Normaniaid (yn llythrennol: gwŷr y Gogledd). Cyrhaeddasant Ffrainc yn ystod y 9fed ganrif. O dan Hrolf Ganger dilynasant Siarl y Tew, brenin Ffrainc. Newidiodd Hrolf ei enw i Rollo (sef ffurf Ffrangeg ar Hrolf) a chafodd dir ger aber Seine gan y brenin. Daeth tir Rollo yn Ddugiaeth Normandi ym 911 a enwyd ar ôl y Normaniaid.

Derbyniodd y Normaniaid Gristnogaeth yn grefydd a Ffrangeg yn iaith. Datblygodd eu diwylliant i fod yn wahanol iawn i ddiwylliant eu hynafiaid yn Llychlyn, ac yn wahanol hefyd i ddiwylliant pobl Ffrainc. Yr oedd Normandi yn ardal arbennig o ddeinamig a threfnus, ac o ganlyniad, llwyddodd y Normaniaid i goncro tiriogaeth enfawr ledled Ewrop.

Yn nwyrain Ewrop, symudodd y Llychlynwyr (a adwaenid gan y pobl Slafig lleol wrth enw 'y Farangiaid) i ardal Kiev.

Y Normaniaid ym Mhrydain[golygu]

Lloegr[golygu]

Prif erthygl - Y Normaniaid yn Lloegr

Gorchfygodd Gwilym II, dug Normandi Loegr yn ystod Brwydr Hastings ym 1066 a chael ei goroni'n Gwilym I, brenin Lloegr. Daeth y Normaniaid i lywodraethu'r wlad yn lle'r Eingl-Saeson ac er y gwrthwynebasant yr Eingl-Saeson y Normaniaid yn y dechrau—daethant i gydbriodi a chydweithio gyda'u gilydd. O ganlyniad newidiwyd iaith y ddwy bobl: daeth Ffrangeg yr Eingl-Normaniaid i fod yn wahanol iawn i'r hyn a siaradwyd ar y Cyfandir ac yn y pen draw, mabwysiadasant iaith yr Eingl-Saeson, a oedd ei hyn yn wahanol iawn i'r hyn a siaradwyd yn Lloegr cyn yr oruchafiaeth. Chwarddodd Geoffrey Chaucer ar ben "Ffrancwyr Paris" oherwydd eu hiaith.

Cymru[golygu]

Castell Penfro
Prif erthygl - Y Normaniaid yng Nghymru

O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad gref pan gyrhaeddodd Gwilym Loegr. Sefydlodd iarllaethau yng Nghaer, Amwythig ac Henffordd. Brwydrodd yr ieirll yn brwydro yn erbyn y Cymry, yn ehangu eu tir ac yn adeiladu cestyll. O ganlyniad daeth brenhiniaeth Gwent i ben ym 1086 ac aeth Gwynedd yn llai ac yn llai.

Serch hynny, cafodd rhai o reolwyr y Cymry eu cydnabod gan y brenin: Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth ac Iestyn ap Gwrgant ym Morgannwg, ond newidiwyd y sefydliad ar ôl i Gwilym farw ym 1087. Cipiwyd Morgannwg a Brycheiniog ac aeth Roger o Montgomery, iarll Amwythig i dde Dyfed i godi castell Penfro.

Y Normaniaid ar gyfandir Ewrop[golygu]

Prif erthygl - Y Normaniaid ar gyfandir Ewrop