Rhys ap Tewdwr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Rhys ap Tewdwr (bu farw 1093) yn frenin teyrnas Deheubarth.

Hanes[golygu]

Hawliodd Rhys orsedd Deheubarth wedi i'w gyfyrder Rhys ab Owain gael ei ladd mewn brwydr yn erbyn Caradog ap Gruffydd yn 1078. Yn 1081 ymosododd Caradog ap Gruffydd ar Ddeheubarth eto a gyrrodd Rhys i chwilio am noddfa yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Yno cyfarfu Rhys a Gruffydd ap Cynan oedd yn ceisio adennill Gwynedd, ac ym mrwydr Mynydd Carn yr un flwyddyn lladdwyd Caradog ap Gruffydd a'i gyngheiriaid Trahaearn ap Caradog brenin Gwynedd a Meilyr ap Rhiwallon. Yr un flwyddyn daeth Gwilym Cwncwerwr i Ddeheubarth, ar bererindod i Dyddewi yn ôl yr hanes, ond mae'n debyg iddo gyfarfod Rhys a dod i gytundeb lle roedd Rhys yn talu gwrogaeth iddo ac yn cael ei gadarnhau ym meddiant Deheubarth.

Ymladdodd Bleddyn ap Cynan yn 1087 ym Mrwydr Pont Llechryd gan ei drechu. Ei gynghreiriaid yn y frwydr oedd y Llychlynwyr a gwŷr Iwerddon.

Gallodd Rhys wrthsefyll pwysau cynyddol gan y Normaniaid hyd 1093, pan laddwyd ef ym Mrycheiniog gan y Normaniaid oedd wedi ymsefydlu yn yr ardal honno. Nid oes sicrwydd a gafodd ei ladd mewn brwydr ynteu trwy dwyll. Yn dilyn ei farwolaeth goresgynodd y Normaniaid y rhan fwyaf o deyrnas Deheubarth, a dim ond rhan o'r hen deyrnas oedd yn nwylo ei fab Gruffydd ap Rhys.

Nest[golygu]

Yr oedd ei ferch Nest yn enwog am ei phrydferthwch a gelwir hi weithiau yn "Helen Cymru". Fel yr Helen wreiddiol bu Nest yn achos rhyfel pan gipiwyd hi o gastell Cilgerran gan Owain ap Cadwgan.

Cyfeiriadau[golygu]

O'i flaen :
Rhys ab Owain
Teyrnoedd Deheubarth
Rhys ap Tewdwr
Olynydd :
Gruffudd ap Rhys