Tyddewi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°52′55″N 5°16′08″W / 51.882°N 5.269°W / 51.882; -5.269

Tyddewi
StDavidsCathedral.jpg
Y Gadeirlan
Tyddewi is located in Cymru
Tyddewi

Tyddewi Cymru
Poblogaeth 1,797 
Sir Penfro
Sir seremonïol Dyfed
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost HWLFFORDD
Cod deialu 01437
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Preseli Sir Benfro
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •

Tyddewi (Mynyw mewn Cymraeg Canol, o'r enw lle Lladin Menevia; St David's yn Saesneg) yw dinas leiaf Cymru a sedd esgobaeth Tyddewi. Mae yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, o ran llywodraeth leol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6ed ganrif. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dominyddu'r dref.

Hanes[golygu]

Mynyw (Lladin: Menevia) yw'r hen enw am y fan lle y sefydlodd Dewi Sant ei abaty. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn. Mae cyfeiriad at y fynachlog mewn llawysgrif Wyddelig a ysgrifenwyd tua 800, sef merthyradur Oengus. Roedd yn safle brysur yn y cyfnod hwn gan fod y rhan fwyaf o'r teithio yn y cyfnod hwn yn cael ei wneud ar y môr, o'r cyfandir, o Lydaw a Chernyw i Iwerddon ac i'r gogledd.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Thyddewi yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Eisteddfod[golygu]

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn 2002.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Egobaethau cymru.gif



 
Dinasoedd yng Nghymru
Flag of Wales 2.svg
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Tyddewi


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato