Castell Penfro
Castell ar lân yr afon yng nghanol tref Penfro, Sir Benfro, yw Castell Penfro. Cychwynwyd ar y gwaith o'i godi ym 1093 gan Roger o Drefaldwyn yn gastell pren, fel rhan o ymdrech y Normaniaid i oresgyn Cymru. Ceir ogof o dan y castell a gafodd ei defnyddio fel storfa. Dywedir fod pobl wedi darganfod darnau arian Rhufeinig ynddo. Ni chipiwyd y castell gan y Cymry er gwaethaf sawl ymosodiad.
Hanes[golygu]
O Gastell Penfro y lansiodd y Normaniaid eu hymdrech i oresgyn Iwerddon.
Ym 1138 cafodd Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro'r castell. Ar ôl hynny roedd Siasbar Tudur yn ei feddianu. Ym 1456 ganwyd Harri Tudur yn y castell, a fyddai'n ddiweddarach yn frenin Lloegr a sefydlydd llinach frenhinol y Tuduriaid. Ei fam oedd Margaret Beaufort, chwaer-yng-nghyfraith i weddw Siaspar Tudur.
Yn ystod Ail Ryfel Cartref Lloegr cafodd y castell ei warchae a'i ddifrodi, ond chafodd o ddim ei gipio mewn brwydr.
Cadwraeth a mynediad[golygu]
Mae'r castell ar rhestr Cadw ac yn ei ofal.