Geoffrey Chaucer
Llenor Saesneg oedd Geoffrey Chaucer (c. 1343 – 25 Hydref, 1400?). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Canterbury Tales.
Ganed ef yn Llundain yn 1343, ond ni wyddir y dyddiad. Bu'n ŵr llys, diplomydd a gwas sifil. Pan ymosododd Edward III ar Ffrainc yn nechrau'r Rhyfel Can Mlynedd, aeth Chaucer i Ffrainc gyda Lionel o Antwerp, Dug Clarence. Yn 1360, cymerwyd ef yn garcharor yng ngwarchae Reims; cafodd ei ryddhau am dâl.
Nid oes llawer o fanylion ar gael am ei fywyd, ond ymddengys iddo deithio yn Ffrainc, Sbaen a Fflandrys, ac iddo efallai fynd ar brererindod i Santiago de Compostela. Tua 1366, priododd Philippa (de) Roet. Ymwelodd a Genoa a Fflorens yn 1373, a chredir i farddoniaeth yr Eidal ddylanwadu arno.
Yn 1374 cafodd swydd Comptroller porthladd Llundain, swydd a ddaliodd am ddeuddeng mlynedd. Credir iddo ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod yma, gan ddechrau gweithio ar The Canterbury Tales yn y 1380au cynnar. Daeth yn Aelod Seneddol dros Swydd Caint yn 1386.
[golygu] Gweithiau
- Cyfieithiad o Roman de la Rose, efallaiThe Romance of the Rose
- The Book of the Duchess
- The House of Fame
- Anelida and Arcite
- Parlement of Foules
- Cyfieithiad o waith Boethius' Cysur Athroniaeth fel Boece
- Troilus and Criseyde
- The Legend of Good Women
- The Canterbury Tales
- Treatise on the Astrolabe
[golygu] Cerddi byrion
- An ABC
- Chaucers Wordes unto Adam, His Owne Scriveyn
- The Complaint unto Pity
- The Complaint of Chaucer to his Purse
- The Complaint of Mars
- The Complaint of Venus
- A Complaint to His Lady
- The Former Age
- Fortune
- Gentilesse
- Lak of Stedfastnesse
- Lenvoy de Chaucer a Scogan
- Lenvoy de Chaucer a Bukton
- Proverbs
- To Rosemounde
- Truth
- Womanly Noblesse