Y Rhyfel Can Mlynedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Can Mlynedd)
Y Rhyfel Can Mlynedd
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Rhan orhyfeloedd rhwng Lloegr a Ffrainc Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1337 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1453 Edit this on Wikidata
LleoliadFfrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEdwardian War, Caroline War, Lancastrian War, Rhyfel Cartref Castille, Rhyfel Olyniaeth Llydaw, Ail Ryfel Annibyniaeth yr Alban, Despenser's Crusade, Siege of Orléans Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Jeanne d'Arc yn gwarchae ar Orleans

Rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc oedd y Rhyfel Can Mlynedd. Enw a roddwyd i'r rhyfel gan haneswyr diweddarach yw hwn; nid oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, o 1337 hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais.

Olyniaeth coron Ffrainc[golygu | golygu cod]

Roedd brenhinllin Lloegr o Ffrainc yn wreiddiol, ac roedd y brenhinoedd Angevin yn dal tiroedd eang yn Normandi, Maine, Anjou, Touraine, Poitou, Gasgwyn, Saintonge ac Aquitaine, gan ffurfio'r ymerodraeth Angevin. Yn raddol, collwyd llawer o'r tiroedd hyn yn ystod y cyfnod rhwng 1214 a 1324.

Yn 1328, bu farw Siarl IV, brenin Ffrainc, heb adael mab. Roedd hyn yn golygu diwedd llinach uniongyrchol y brenhinoedd Capetaidd. Roedd yn anicr pwy oedd a hawl i'r goron; ymhlith yr hawlwyr roedd Edward III, brenin Lloegr. Penderfyniad uchelwyr Ffrainc oedd coroni Philip o Valois, oedd o linach arall o'r Capetiaid, a ddaeth yn frenin fel Philip VI, y cyntaf o Frenhinllin Valois.

Buddugoliaethau Seisnig 1337-1360[golygu | golygu cod]

Ym 1337, cyhoeddodd Edward III mai ef oedd gwir frenin Ffrainc, a dechreuosdd y rhyfel. Enillodd Ffrainc nifer o fuddugoliaethau ar y môr yn y blynyddoedd cyntaf, ond yn 1340 dinistriwyd eu llynges gan y Saeson ym Mrwydr Sluys. Dechreuodd Rhyfel Olyniaeth Llydaw yn 1341, un ochr yn cael ei chefnogi gan Ffrainc a'r llall gan Loegr. Ym mis Gorffennaf 1346, ymosododd Edward III ar Ffrainc, ac yn fuan wedyn enillodd fuddugoliaeth dros y Ffrancwyr ym Mrwydr Crecy. Y prif reswm dros y fuddugoliaeth oedd effeithiolrwydd y bwa hir; mewn gwirionedd Cymry oedd llawer o'r saethyddion "Seisnig".

Yn 1348, effeithiwyd ar Ewrop gan y Pla Du, a chymerodd rai blynyddoedd cyn i'r teyrnasoedd fedru adfer eu nerth. Yn 1356, ymosododd Edward, y Tywysog Du, mab Edward II, ar Ffrainc, ac enillodd fuddugoliaeth fawr arall ym Mrwydr Poitiers, eto yn bennaf oherwydd defnydd y bwa hir. Cymerwyd brenin Ffrainc, Jean II, yn garcharor. Yn ddiweddarch y flwyddyn honno rhoddodd Cytundeb Llundain diriogaeth Aquitaine i Loegr yn gyfnewid am ei ryddid.

Achosodd y rhyfel galedi mawr yn Ffrainc, ac yn 1358 gwrthryfelodd y werin yn nherfysgoedd y Jacquerie. Ymosododd Edward eto, ond ni allodd gipio Paris. Yn 1360, arwyddwyd Cytundeb Brétigny, a roddodd ddiwedd ar yr ymladd am bron ddeng mlynedd. Dan y cytundeb yma, roedd Aquitaine a thiriogaethau eraill, dros draean o Ffrainc i gyd, yn dod yn eiddo'r Tywysog Du.

Bertrand du Guesclin: Ffrainc yn adennill tir 1369-1389[golygu | golygu cod]

Ail-ddechreuodd yr ymladd pan ddaeth Siarl V i orsedd Ffrainc yn 1369. Yn y cyfnod yma, collodd y Saesnon lawer o'r hyn yr oeddynt wedi ei ennill yn y cyfnod cyntaf, gyda Bertrand du Guesclin yn gadfridog llwyddiannus iawn dros y Ffrancwyr. Roedd y Tywysog Du yn cael ei gadw yn brysur gan ryfel yn Sbaen a Portiwgal yn y cyfnod yma. Lladdwyd John Chandos, distain Poitou, a chymerwyd un arall o'r cadfridogion mwyaf galluog ar ochr y Saeson, Jean de Grailly, y Captal de Buch, gan wŷr Owain Lawgoch, oedd yn arwain cwmni o filwyr Cymreig ar ochr y Ffrancod. Strategaeth Du Guesclin oedd osgoi brwydrau mawr rhwng y ddwy fyddin ond canolbwyntio ar gipio dinasoedd, megis Poitiers yn 1372 a Bergerac yn 1377.

Bu farw'r Tywysog Du yn 1376 ac Edward III yn 1377, a daeth mab ieuanc y Tywysog Du yn frenin Lloegr fel Rhisiart II. Bu farw Du Guesclin yn 1380, a bu cadoediad yn 1389.

Buddugoliaethau Seisnig eto 1415–1429[golygu | golygu cod]

Daeth Harri IV i orsedd Lloegr yn 1399, a gwnaed cynlluniau am ymosodiad arall ar Frainc. Fodd bynnag, yn nheyrnasiad ei fab, Harri V, y daeth yr ymosodiad nesaf. Ym mis Awst 1415, glaniodd yn Harfleur gyda byddin a chipio'r ddinas, cyn anelu am Calais. Enillodd fuddugoliaeth fawr dros y Ffrancwyr ym Mrwydr Agincourt, i'r gogledd o Afon Somme. Unwaith eto, y bwa hir oedd yr allwedd i'r fuddugoliaeth. Cipiodd y Saeson y rhan fwyaf o Normandi, yn cynnwys Caen yn 1417 a Rouen yn 1419. Gwnaeth Harri gynghrair a Dug Bwrgwyn, oedd wedi cipio Paris.

Yn 1420, arwyddwyd Cytundeb Troyes. Dan delerau'r cytundeb yma, byddai Harri V yn priodi Catrin o Valois, merch brenin Ffrainc, a byddai eu hetifedd yn dod yn frenin Ffrainc. Cyhoeddwyd y Dauphin, Siarl, yn blentyn anghyfreithlon, a meddiannodd Harri ddinas Paris yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

Cyrhaeddodd byddin Albanaidd o tua 6,000 i gynorthwyo'r Ffrancwyr, ac enillasant fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Bauge. Yn fuan wedyn, bu farw Harri V yn Meaux yn 1422. Bu farw Siarl, brenin Ffrainc yn fuan wedyn. Coronodd ei gefnogwyr fab Harri V, Harri VI, fel brenin Lloegr a Ffrainc, ond parhaodd plaid Armagnac i gefnogi'r Dauphin Siarl, a pharhaodd y rhyfel, gan roi Orleans dan warchae.

Buddugoliaeth derfynol Ffrainc 1429–1453[golygu | golygu cod]

Datblygiad y Rhyfel Can Mlynedd Tiriogaeth ym meddiant Ffrainc mewn melyn, ym meddiant Lloegr mewn llwyd ac ym meddiant Bwrgwyn mewn llwyd tywyll.

Yn 1428, roedd y Saeson yn gwarchae ar Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII.

Cymerwyd Jeanne d’Arc yn garcharor gan y Bwrgwyniaid yn 1430, a’i gwerthu i’r Saeson, a’i dienyddiodd trwy losgi. Yn 1435, fodd bynnag, newidiodd y Bwrgwyniaid eu hochr, gan arwyddo Cytundeb Arras a dychwelyd Paris i frenin Ffrainc.

Parhaodd yr ymladd, gyda John Talbot, Iarll 1af Amwythig yr amlycaf o’r cadfridodion Seisnig. Enillodd fuddugoliaethau yn Ry yn 1436 ac Avranches yn 1439. Er gwaethaf buddugoliaethau Talbot, llwyddodd y Ffrancwyr i gipio llawer o drefi a dinasoedd trwy ddilyn yr un strategaeth a Du Guesclin, ac osgoi brwydrau mawr.

Erbyn 1449, roedd y Ffrancwyr wedi ail-gipio Rouen, ac yn 1450 gorchfygwyd byddin Seisnig ym Mrwydr Formigny. Cipiodd y Ffrancwyr Cherbourg yn ddiweddarach y flwyddyn honno a Bordeaux a Bayonne yn 1451.

Ceisiodd Talbot ail-feddiannu Gasgwyn, ond gorchfygwyd ef gan Jean Bureau ym Mrwydr Castillon yn 1453. Erbyn hyn roedd gynnau mawr yn dod yn ddylanwadol mewn brwydrau, a goruchfaieth saethwyr y bwa hir yn dod i ben yn raddol. Ystyrir Castillon fel brwydr olaf y Rhyfel Can Mlynedd.

Cymru a'r Rhyfel Can Mlynedd[golygu | golygu cod]

Ymladdodd nifer fawr o Gymry yn y Rhyfel Can Mlynedd, y rhan fwyaf dros frenin Lloegr, ond rhai dros frenin Ffrainc hefyd. Yn eu plith roedd cryn nifer o uchelwyr, a cheir llawer o gyfeiriadau at eu campau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y cyfnod hwn, ac mae'n debyg i rai o'r beirdd ymladd yn Ffrainc eu hunain.

Dywedir i'r saethyddion Cymreig ym Mrwydr Crecy wisgo lifrai yn y lliwiau cenedlaethol o wyrdd a gwyn; un o'r enghreifftiau cynharaf o'r math yma o lifrai. Daeth Syr Hywel y Fwyall neu Syr Hywel ap Gruffudd (fl. 1330 - 1381), yn enwog am ei gampau fel capten ym myddin y Tywysog Du ym mrwydr Poitiers (1356). Yn ôl traddodiad, ef a gymerodd Jean Dda, brenin Ffrainc, yn garcharor yno. Un o'r ychydig o wŷr amlwg a laddwyd ar yr ochr Seisnig ym Mrwydr Agincourt oedd Dafydd Gam neu Dafydd ap Llewelyn ap Hywel (c. 1380 - 1415).

Un o filwyr amlycaf cyfnod olaf y rhyfel oedd Mathau Goch neu Mathew Gough (1386 - 1450). Dathlwyd ei wrhydri gan feirdd Cymru, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Guto'r Glyn ac Ieuan Deulwyn. Daeth Mathau i amlygrwydd ym mrwydrau Cravant (1423) a Verneuil (1424) a chafodd ei hun yn gapten ar nifer sylweddol o farchogion a milwyr traed. Bu'n gapten ar dref gaerog Laval yn 1428. Ildiodd Beaugency i luoedd Jeanne d'Arc yn 1429, ar ôl gwarchae gan lu sylweddol mwy. Bu capten ar ôl hynny ar sawl garsiwn arall, yn cynnwys Le Mans a Bayeux yn Normandi. Cafodd Mathau ei ddal gan y Ffrancod yn 1432 a cheir cywyddau gan y beirdd, yn galw am godi'r arian i dalu ei ransom, yr hyn a godwyd yn fuan. Yn 1450 bu'n bresennol ym mrwydr Formigny. Llwyddodd Mathau a 1500 o farchogion i dorri trwy rengoedd y Ffrancod a dianc, ond daliwyd ei gyfaill William Herbert ac eraill. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.

Yr amlycaf o'r Cymry fu'n ymladd ar ochr Ffrainc oedd Owain Lawgoch neu Owain ap Thomas ap Rhodri (c. 1330-1378). Roedd Owain yn ŵyr i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf ac felly hawliai ei fod yn etifedd i'w deyrnas ac i fod yn Dywysog Cymru. Adnabyddid ef gan y Ffrancwyr fel Yvain de Galles.

Roedd Owain yr arweinydd cwmni o filwyr hur, y rhan fwyaf ohonynt yn Gymry. Cafodd gymorth brenin Ffrainc i hwylio i ymosod ar Frenin Lloegr yn 1372, gyda'r bwriad o gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru, ond galwyd ef yn ôl gan y brenin cyn iddo gyrraedd Cymru. Yn 1378 fe lofruddiwyd Owain yn Mortagne-sur-mer (Charente-maritime) gan John Lamb, asiant cudd yn nhâl y Saeson, a oedd trwy frad wedi ennill ymddiriedaeth Owain. Wedi marw Owain daeth Ieuan Wyn, a alwai'r Ffrancwyr yn le Poursuivant d'Amour, un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, yn arweinydd ei gwmni o filwyr.