Reims
Oddi ar Wicipedia
Mae Reims yn ddinas hynafol ym Marne i'r dwyrain o Paris yng ngogledd Ffrainc.
Reims oedd prif ddinas y dalaith Rufeinig Gallia Belgica. Sefydlwyd esgobaeth yno yn O.C. 200. Bedyddiwyd y brenin Clovis yno yn 496 gan sefydlu traddodiad brenhinol. Rhwng 1548 a 1793 roedd hen brifysgol Reims yn ganolfan dysg. Dioddefodd yr hen ddinas gryn ddifrod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond goroesodd yr eglwys gadeirol, sy'n dyddio o'r 13eg ganrif a sawl adeilad hanesyddol arall. Yn ninas Reims arwyddodd y Wehrmacht ei ildiad ar y 7 Mai, 1945.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa'r Ymroddiad
- Basilica Sant Remi
- Eglwys gadeiriol Notre-Dame de Reims
- Neuadd y Dref
- Palas Tau
Enwogion [golygu]
- Jean-Baptiste Colbert (1619-1683), gwleidydd
- Nicolas de Grigny (1672-1703), cyfansoddwr
- Jean Baudrillard (1929-2007), athronydd