Grenoble
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Grenoble. Saif wrth droed yr Alpau lle mae afon Drac yn ymuno ag afon Isère. Grenoble yw prifddinas département Isère.
Sefydlwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd yr Allobroges fel "Cularo". Cafodd yr enw "Gratianopolis" wedi i'r ymerawdwr Rhufeinig Gratian ymweld a'r ddinas a chryfhau'r muriau yn 380.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- La Bastille
- Musée de Grenoble (amgueddfa)
- Palas y Senedd Dauphiné
- Tour de l'Isle
Pobl enwog o Grenoble[golygu]
- Casimir Pierre Perier (1777–1832), gwleidydd
- Stendhal (1783-1842), awdur
- Henri Fantin-Latour (1836-1904), arlunydd
- Lionel Terray (ganed 1921), dringwr