Afon Isère
Oddi ar Wicipedia
Afon Isère yn Pontcharra, Isère
Afon yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Rhône yw afon Isère. Mae'n 286 km o hyd, ac yn tarddu yn yr Alpau heb fod ymhell o'r ffîn â'r Eidal, gerllaw canolfan sgïo Val d'Isère. Llifa i mewn i afon Rhône yn Pont-de-l'Isère, ychydig i'r gogledd o Valence.
Ymhlith llednentydd afon Isère mae afon Arc ac afon Drac. Llifa'r afon trwy dri département: Savoie, Isère a Drôme. Ymhlith y dinasoedd a threfi ar ei glan mae Bourg-Saint-Maurice, Albertville, Grenoble a Romans-sur-Isère.