Toulouse
Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa), yn département Haute-Garonne a région Midi-Pyrénées. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Gelwir y ddinas y ville rose oherwydd lliw y brics traddodiadol. Saif y ddinas ar Afon Garonne.
Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.
Cynnwys |
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Basilica Saint-Sernin
- Eglwys gadeiriol Saint-Étienne
- Hotel du Grand Balcon
- Prifysgol Toulouse
[golygu] Addysg
[golygu] Pobl o Doulouse
- Pierre de Fermat (c. 1601-1665), mathemategydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Jean-Pierre Rives (g. 1952), chwaraewr rygbi
[golygu] Gefeilldrefi