Aix-en-Provence
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne Ffrainc yw Aix neu Aix-en-Provence. Saif tua 30 km i'r gogledd o Marseille, yn region Provence a département Bouches-du-Rhône. Mae'r boblogaeth tua 140,200.
Sefydlwyd y ddinas yn 123 CC gan y conswl Rhufeinig Sextius Calvinus, a roddodd yr enw Aquae Sextiae iddi. Cipiwyd hi gan y Fisigothiaid yn 477 a chan y Mwslimiaid yn 737. Yn y Canol Oesodd, Aix oedd prifddinas Provence.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Brasserie Deux Garçons
- Cathédrale Saint Sauveur (eglwys gadeiriol)
- Cours Mirabeau
- Fontaine des Quatre Dauphins
- Halle de Grains
- Hôtel de Ville (neuadd y dinas)
- Musée Granet (amgueddfa)
- Palais de Justice
- Palas yr Archesgob
Enwogion[golygu]
- Eleanor o Brovence (m. 1291), gwraig Harri III, brenin Lloegr
- Joseph Sec (1715–1794), pensaer
- Paul Cézanne (1839–1906), arlunydd
- Darius Milhaud (1892–1984), cyfansoddwr