Le Havre
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Le Havre. Saif ger aber afon Seine, gyferbyn a Honfleur ar yr lan arall, yn departément Seine-Maritime a region Haute-Normandie.
Enw gwreiddiol y ddinas oedd Franciscopolis, ar ôl Ffransis I, brenin Ffrainc, a'i sefydlodd yn 1517. Gyda phoblogaeth o 190,905 yn 1999, Le Havre yw ail borthladd Ffrainc o ran poblogaeth, a'r ddeuddegfed dinas yn Ffrainc.
Cynhoeddodd UNESCO ganol dinas Le Havre yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2005, fel enghraifft glasurol o bensaernïaeth a chynllunio dinesig yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd.

