Nîmes
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne Ffrainc yw Nîmes. Hi yw prifddinas département Gard yn region Languedoc-Roussillon. Saif heb fod ymhell o Avignon, Montpellier a Marseille. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 133,424 .
Roedd Nîmes, fel Colonia Nemausensis, yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'r amffitheatr Rufeinig, Arena Nîmes, yn nodedig, tra ystyrir y Maison Carrée yr enghraifft o deml Rufeinig sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Rhyw 20 km i'r gogledd-orllewin, mae'r Pont du Gard, acwedwct oedd yn cario dŵr i'r ddinas.
Daw'r gair denim am y brethyn o "de Nîmes" ("o Nîmes").
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amffitheatr
- Eglwys gadeiriol
- Musée des Beaux-Arts de Nîmes (amgueddfa)
- Pont du Gard
[golygu] Enwogion
- François Guizot (1787–1874), hanesydd a gwleidydd
- Alphonse Daudet (1840–1897), nofelydd