Amiens
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Amiens. Saif ar afon Somme tua 120 km i'r gogledd o ddinas Paris. Amiens yw prifddinas département Somme. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 136,000.
Yn ystod y cyfnod Rhufeinig, enw'r ddinas oedd Samarobriva (pont ar yr afon Samara, sef Hamarfrif yn Gymraeg), a hi oedd canolfan llwyth yr Ambiani.
Eglwys Gadeiriol Amiens yw'r talaf o'r holl eglwysi cadeiriol Gothig o'r 13eg ganrif, a'r mwyaf o'i bath yn Ffrainc. Mae'n Safle Treftadaeth y Byd.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Gare d'Amiens (gorsaf)
- Musée de Picardie (amgueddfa)
- Stade de la Licorne (stadiwm)
[golygu] Enwogion
- Vincent Voiture (1597-1648), bardd
- Pierre Choderlos de Laclos (1741-1803), milwr a nofelydd
- Paul Bourget (1852-1935), nofelydd