Caen
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Caen. Hi yw prifddinas département Calvados a région Basse-Normandie. Saif ar afon Orne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 113,249.
Cysylltir y ddinas a Gwilym Goncwerwr, a gladdwyd yma. Bu ef yn gyfrifol am lawer o adeiladau nodedig yma, yn cynnwys abaty Abbaye-aux-hommes a chastell Château de Caen, sy'n un o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Yn 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Brwydr Caen yma, a dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Abbaye aux Dames (Eglwys y Drindod Sanctaidd), gyda'r bedd Matilda o Fflandrys, brenhines Lloegr
- Abbaye aux Hommes (Eglwys Sant Steffan), gyda'r bedd Wiliam I, brenin Lloegr
- Castell
Enwogion [golygu]
- François Le Métel de Boisrobert (1592–1662), bardd
- Daniel Auber (1782–1871), cyfansoddwr