Ohrid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Glannau Llyn Ohrid

Dinas ar lan ddwyreiniol Llyn Ohrid yn ne-orllewin Macedonia yw Ohrid (Macedoneg Охрид / Ohrid, Albaneg Ohri). Mae ganddi 55,749 o drigolion (Cyfrifiad 2002), 84.6% ohonynt yn Facedoniaid, 5.5% yn Albaniaid a 4.2% yn Dyrciaid. Prif ddiwydiant y ddinas heddiw yw twristiaeth.

Sefydlwyd y ddinas yng nghyfnod yr Henfyd fel Lychnidos. Roedd yn sefyll ar y Via Egnatia, ffordd oedd yn cysylltu porth Dyrrachion (Durrës heddiw) ar Fôr Adria â Chaergystennin. Roedd Ohrid yn ganolfan ddiwilliannol a milwrol o bwys yn yr Oesoedd Canol. Mae adfeilion caer Tsar Samuil i'w gweld uwchben y ddinas hyd heddiw. Yn ei amser ef, yn y nawfed a'r ddegfed ganrifoedd (992-1018), prifddinas gwladwriaeth Bwlgaria oedd Ohrid. Cynhyrchiwyd nifer fawr o lawysgrifau crefyddol ym mynachlogydd yr ardal o'r nawfed ganrif ymlaen. Mae ffyniant diwylliant Bwlgaro-Macedonaidd yn y cyfnod hwnnw a sefydliad ysgol lenyddol Ohrid yn gysylltiedig yn bennaf ag esgob Ohrid, Sant Kliment Ohridski, ag â Sant Naum. Cipiwyd y ddinas gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdr Basil II ('Lladdwr Bwlgariaid') yn 1015. Sefydlwyd patriarchaeth yn y ddinas ar gyfer y rhan fwyaf o Gristnogion Slafonaidd y Balcanau. Parhaodd fel archesgobaeth tan iddi gael ei diddymu yn 1767. Mae eglwysi a mynachlogydd y ddinas o ddiddordeb pensaernïol, ynghŷd â thai arferol mewn arddull nodweddiadol o'r Balcanau. Ychwanegwyd Ohrid a Llyn Ohrid i restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1980.

Gefeilldrefi[golygu]


Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria Baner Bwlgaria
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879)