Croatia
|
|||||
| Arwyddair: Dim | |||||
| Anthem: Lijepa naša domovino | |||||
| Prifddinas | Zagreb | ||||
| Dinas fwyaf | Zagreb | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Croateg 1 | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
| • Arlywydd • Prif Weinidog |
Ivo Josipović Zoran Milanović |
||||
| Annibyniaeth • Cydnabuwyd |
gan Iwgoslafia 25 Mehefin 1991 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
56,542 km² (124fed) 0.01 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
4,437,460 (14fed) 4,551,000 83/km² (116fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $55.638 biliwn (72fed) $12,364 (56fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.841 (45fed) – uchel | ||||
| Arian cyfred | Kuna (kn) (HRK) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .hr | ||||
| Côd ffôn | +385 |
||||
| 1 Hefyd Eidaleg yn Swydd Istria. | |||||
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg:
Republika Hrvatska ?/i ). Roedd hi'n ran o'r hen Iwgoslafia gynt. Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia a Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb.
Cynnwys |
Daearyddiaeth Croatia [golygu]
Hanes Croatia [golygu]
Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presennoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.
Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r seithfed ganrif ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.
Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.
Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.
Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid. Erbyn 2010 mmae'r wlad wedi paratoi a moderneiddio i'r fath raddau fel bod Undeb Ewrop wedi ei derbyn fel darpar aelod.
Mae Croatia rwan yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO a Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
Gwleidyddiaeth Croatia [golygu]
Diwylliant Croatia [golygu]
Economi Croatia [golygu]
| Gwledydd y Môr Canoldir | |
|---|---|
| Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci | |
