Rwmania

Oddi ar Wicipedia
Rwmania
România
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRhufain hynafol Edit this on Wikidata
PrifddinasBwcarést Edit this on Wikidata
Poblogaeth19,053,815 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemDeșteaptă-te, române! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcel Ciolacu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwmaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd238,397 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaWcráin, Hwngari, Serbia, Bwlgaria, Moldofa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46°N 25°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Rwmania Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Rwmania Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Rwmania Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKlaus Iohannis Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Rwmania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcel Ciolacu Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$285,405 million, $301,262 million Edit this on Wikidata
ArianRomanian Leu Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.41 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.821 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de, a'r Wcráin a Moldofa i'r gogledd a'r dwyrain.[1] Ffurfir y mwyafrif o'r goror rhwng Rwmania a Bwlgaria gan Afon Donaw, sy'n arllwys i Aberdir y Donaw yn y fan mae morlin yn ne-ddwyrain Rwmania ar lannau'r Môr Du. Mae ganddi arwynebedd o 238,391 square kilometre (92,043 mi sgw) a hinsawdd gyfandirol a thymherus. Rhed cadwyn dde-ddwyreiniol Mynyddoedd Carpathia trwy ganolbarth y wlad, gan gynnwys Copa Moldoveanu (2,544 m (8,346 ft)).[2]

Datblygodd y wlad fodern yn nhiriogaethau'r dalaith Rufeinig Dacia. Unodd tywysogaethau Moldafia a Walachia ym 1859 yn sgil y deffroad cenedlaethol. Rhoddid yr enw Rwmania ar y wlad yn swyddogol ym 1866, ac enillodd ei hannibyniaeth oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid ym 1877. Ymunodd Transylfania, Bukovina a Besarabia â Theyrnas Rwmania ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Brwydrodd Rwmania ar ochr yr Almaen Natsïaidd yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd tan iddi ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1944. Cafodd y wlad ei meddiannu gan y Fyddin Goch a chollodd sawl tiriogaeth. Wedi'r rhyfel, trodd Rwmania yn weriniaeth sosialaidd ac yn aelod o Gytundeb Warsaw. Dymchwelwyd y drefn gomiwnyddol gan Chwyldro 1989, a newidodd Rwmania'n wlad ddemocrataidd a chanddi economi'r farchnad.

Tyfod economi Rwmania yn gyflym ar ddechrau'r 2000au, a bellach mae'n seiliedig yn bennaf ar wasanaethau a hefyd yn cynhyrchu ac allforio peiriannau ac ynni trydan. Ymaelododd â NATO yn 2004 a'r Undeb Ewropeaidd yn 2007. Trigai tua 20 miliwn o bobl yn y wlad, a bron i 2 miliwn ohonynt yn y brifddinas Bwcarést.[3] Rwmaniaid, un o'r cenhedloedd Lladinaidd, yw mwyafrif y boblogaeth a siaradent Rwmaneg ac yn Gristnogion Uniongred Dwyreiniol. Ceir lleiafrifoedd o dras Hwngaraidd a Roma.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Daw enw'r wlad yn y bôn o'r gair Lladin romanus, sy'n golygu "dinesydd Rhufain".[4] Defnyddid yr enw yn gyntaf, hyd y gwyddon, yn yr 16g gan ddyneiddwyr Eidalaidd a deithiodd i Dransylfania, Moldafia, a Walachia.[5][6][7][8] Sonir am Țeara Rumânească ("Tir Rwmania") yn Llythyr Neacșu o Câmpulung (1521), y ddogfen hynaf sy'n goroesi yn yr iaith Rwmaneg.[9]

Defnyddid y ddau sillafiad român a rumân hyd ddiwedd yr 17g, pan wahaniaethid y ddwy ffurf am resymau cymdeithasol-ieithyddol: "taeog" oedd ystyr rumân bellach, a român oedd yr enw ar y bobl Rwmaneg eu hiaith.[10] Wedi diddymu'r system daeog ym 1746, gair anarferol oedd rumân a daeth y ffurf român yn safonol. Defnyddid yr enw Rwmania i ddisgrifio mamwlad yr holl Rwmaniaid yng nghyfnod cynnar y 19g.[11]

Ymhlith y ffurfiau ar enw'r wlad mewn ieithoedd eraill Ewrop mae Rumänien yn Almaeneg, Roumanie yn Ffrangeg, Rumunija yn Serbo-Croateg, Румыния (Rumyniya) yn Rwseg, a Rumunia yn Bwyleg. Daw'r enw Cymraeg drwy'r hen ffurf Saesneg Rumania neu Roumania.[12] Romania yw'r ffurf Saesneg arferol ers canol y 1970au.[13][14]

Enwau swyddogol
  • 1859–1862: Tywysogaethau Unedig
  • 1862–1866: Tywysogaethau Unedig Rwmania
  • 1866–1881: Rwmania
  • 1881–1947: Teyrnas Rwmania
  • 1947–1965: Gweriniaeth Pobl Rwmania (RPR)
  • 1965–1989: Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (RSR)
  • 1989–presennol: Rwmania

Hanes[golygu | golygu cod]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Tua 2000 CC ymsefydlodd yr Indo-Ewropeaid yn ardal Donaw-Carpathia, a chymysgant â'r brodorion neolithig gan ffurfio'r Thraciaid. Tros amser datblygodd y Thraciaid yn ddau dylwyth tebyg, y Getiaid a'r Daciaid, enwau a roddid arnynt gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Trigant yn y mynyddoedd i ogledd Gwastatir y Donaw ac ym Masn Transylfania. Daeth y Getiaid i gysylltiad â'r byd Groeg drwy wladfeydd yr Ïoniaid a'r Doriaid ar arfordir gorllewinol y Môr Du yn y 7g CC.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Annibyniaeth a brenhiniaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Rwmania dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaidd o'r 15g hyd y 19g. Yn sgil twf cenedlaetholdeb ar draws Ewrop, dechreuodd y Rwmaniaid frwydro am eu hannibyniaeth yn y 1820au wrth iddynt geisio uno Moldafia, Walachia a Thransylfania. Unodd Moldafia a Walachia ym 1862 i ffurfio'r Tywysogaethau Unedig, a ail-enwyd yn Rwmania ym 1866. Trodd yn deyrnas ym 1881.

Y Rwmania gomiwnyddol[golygu | golygu cod]

Cafwyd ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïau awtarciaidd Nicolae Ceauşescu, arweinydd y Rwmania Gomiwnyddol o 1965 i 1989, yn llwyddiannus, ac wrth drio talu holl ddyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yr economi a arweiniodd at dlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddi droi'n wladwriaeth heddlu dan warchodaeth y Securitate. Saethwyd Ceauşescu a'i wraig Ddydd Nadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr yn Timisoara.[15]

Y Rwmania fodern[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd

Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania â Serbia a Bwlgaria gan Afon Donaw. Ymunir y Donaw gan Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifir y Donaw i'r Môr Du, yn ffurfio Delta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.

Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.

Mae gan Rwmania tirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.

Mae Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynu Gwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at Wastadedd Bărăgan.

Tri mynydd uchaf Rwmania yw:

   Enw  Uchder  Grŵp Mynyddoedd
   1 Copa Moldoveanu    2 544 m Mynyddoedd Făgăraş
   2 Omu    2 500 m Mynyddoedd Făgăraş
   3 Piatra Craiului    2 489 m Mynyddoedd Făgăraş

Dinasoedd[golygu | golygu cod]

Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinas Bwcarést, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:

# Dinas Poblogaeth[16] Sir
1. Bwcarést 2 082 334 Sir Bwcarést
2. Iaşi 320 888 Sir Iaşi
3. Cluj-Napoca 317 953 Sir Cluj
4. Timişoara 317 660 Sir Timiş
5. Constanţa 310 471 Sir Constanţa
6. Craiova 302 601 Sir Dolj
7. Galaţi 298 861 Sir Galaţi
8. Braşov 284 595 Sir Braşov
9. Ploiesti 232 527 Sir Prahova
10. Braila 216 292 Sir Braila
11. Oradea 206 616 Sir Bihor
12. Bacau 175 500 Sir Bacau

Gwleidyddiaeth a llywodraeth[golygu | golygu cod]

Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.

Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.

Rhanbarthau a siroedd[golygu | golygu cod]

Map gweinyddol o Rwmania
Mae Transylfania yn wyrdd, Wallachia yn las, ardal Moldofa yn goch, a Dobrogea yn felyn

Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bwcarést (y brifddinas).

Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:

Economi[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Yn 2022, mae Rwmania yn cael CMC o gwmpas $737 biliwn a CMC y pen o $38,721[17]. Yn ôl Banc y Byd, mae Rwmania yn gwlad incwm uchel[18]. Yn ôl Eurostat, roedd CMC y pen Rwmania yn 77% o gyfartaledd yr UE yn 2022, cynnydd o 44% mewn 2007 gan wneud Rwmania yn un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf.[19]

Ar ôl 1989, fe wnaeth y wlad profi degawd o ansefydlogrwydd economaidd a ddirywiad, wedi arwain yn rhannol gan sylfaen ddiwydiannol ddarfodedig a ddiffyg diwyigo strwythurol. Er hyn, o 2000 ymlaen, roedd economi Rwmania wedi trawsnewid mewn i un gyda sefydlogrwydd macro-economaidd cymharol wedi ei nodweddi gan twf uchel, diweithdra isel a chwyddiant sy'n lleihau. Yn 2006, yn ôl Swyddfa Ystadegau Rwmania, roedd twf CMC yn 7.7%, un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop[20]. Er hyn, roedd y Dirwasgiad Mawr yn 2008 wedi gorfodi i'r gwlad benthyg yn allanol, gan gynnwys rhaglen 'bailout' o €20 biliwn o'r IMF[21]. Yn ôl Banc y Byd, tyfodd CMC y pen mewn pŵer prynu o $13,687 yn 2007 i $28,206 yn 2018 [22]. Cynyddodd cyflog net cyfartalog i €913 yn 2023[23], a cyfradd chwyddiant o -1.1% yn 2016. Roedd di-weithdra yn Rwmania yn 4.3% yn Awst 2018, sy'n isel mewn cymhariaeth efo gwledydd eraill yn yr UE[24].

Llun car Dacia Duster yn 2022

Roedd twf allbwn diwydiannol wedi cyrraedd 6.5% blwyddyn-ar-flwyddyn yn Chwefror 2013, yr uchaf yn Ewrop[25]. Y cwmnïoedd lleol mwyaf yn cynnwys gwneuthurwr ceir Dacia, Petrom, Rompetrol, Ford Romania, Electrica, Romgaz, RCS & RDS a Banca Transilvania. O 2020 ymlaen, mae yna o gwmpas 6000 o allforion y mis. Prif allforion Rwmania yw: ceir, meddalwedd, dillad a tecstiliau, peiriannau diwydiannol, offer trydannol ac electronig, cynhyrchion metalig, deunyddiau crai, offer milwrol, cynhyrchiol fferyllol, cemegion, a cynhyrchion amaethfyddol (ffrwythau, llysiau, a blodau). Mae masnach wedi'i ganoli'n bennaf o amgylch aelodau yr UE, gyda'r Almaen a'r Eidal fel ei partneriaid masnach fwyaf. Roedd balans cyfrif yn 2012 o gwmpas 4.52% o CMC.

Ar ôl cyfres o preifateiddio a diwygiadau yn y 1990au hwyr a'r 2000au, ymyrraeth llywodraethol yn economi Rwmania yn llai na gwledydd Ewropeaidd arall[26]. Yn 2005, disodlodd y llywodraeth system trethi flaengar Rwmania efo treth gwastad o 16% am incwm personol ac elw corfforaethol, ymhlith y cyfraddau isaf yn yr Undeb Ewropeaidd[27]. Mae'r economi wedi'i seilio ar wasanaethau, sy'n cyfri am 56.2% o CMC y wlad yn 2017, gyda diwydiant ac amaethfyddiaeth yn cyfri am 30% a 4.4% yn y drefn honno[28]. Amcangyfrir bod 25.8% o weithlu Rwmania yn cael eu gyflogi yn y sector amaethfyddol, un o'r uchaf yn Ewrop[29].

Rwmania wedi denu symiau cynyddol o fuddsoddiad tramor yn dilyn diwedd Comiwnyddiaeth, gyda stoc o fuddsoddiad tramor uniongyrchol (FDI) yn Rwmania yn codi i €83.8 biliwn yn Mehefin 2019. Cyfanswm stoc allanol FDI Rwmania (busnes allanol neu dramor naill ai'n buddsoddi mewn neu'n prynu stoc economi leol) oedd $745 miliwn yn Rhagfyr 2018, y gwerth isaf ymhlith 28 aelod-wladwriaethau'r UE[30]. Rhai cwmnïoedd sy'n buddsoddi yn Rwmania yn cynnwys Coca-Cola, McDonald's, Pizza Hut, Procter & Gamble, Citibank, a IBM.

Yn ôl adroddiad Banc y Byd yn 2019, mae Rwmania yn safle 52 allan o 190 yn economïau o ran rhwyddineb gwneud busnes, un lle yn uwch na Hwngari gyfagos ac un lle yn is na'r Eidal. Canmolodd yr adroddiad y broses gyson o orfodi contractau a mynediad at gredyd yn y wlad, tra'n nodi anawsterau o ran mynediad at drydan a delio â thrwyddedau adeiladu.

Llun yn dangos nodyn 200 Lei Rwmania

Ers 1867 arian cyfred swyddogol wedi bod yn y leu Romania ac yn dilyn enwadau ers 2005. Ar ôl ymuno â'r Ue yn 2007, mae Rwmania yn cynllunio i ddefnyddio'r Ewro yn 2029[31].

Yn Ionawr 2020, adroddwyd bod dyled allanol Rwmania yn US$122 biliwn yn ôl data CEIC[32].

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
18664,424,961—    
18875,500,000+24.3%
18995,956,690+8.3%
19127,234,919+21.5%
193018,057,028+149.6%
193919,934,000+10.4%
194113,535,757−32.1%
194815,872,624+17.3%
195617,489,450+10.2%
196619,103,163+9.2%
197721,559,910+12.9%
199222,760,449+5.6%
200221,680,974−4.7%
201120,121,641−7.2%
2016 (amcan.)19,474,952−3.2%
Nid yw rhifau cyn 1948 yn cyfateb i ffiniau cyfredol y wlad.
Map o grwpiau ethnig Rwmania, yn seiliedig ar ddata o gyfrifiad 2011.

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Rwmania yw 20,121,641. Megis gwledydd eraill yn ei chylch, mae disgwyl i'r boblogaeth leiháu'n raddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i gyfradd ffrwythlondeb (1.2–1.4) sy'n rhy isel i gynnal nifer cenedlaethau'r dyfodol a chyfradd allfudo sy'n uwch na'r gyfradd mewnfudo. Ym mis Hydref 2011, roedd Rwmaniaid ethnig yn cyfri am 88.9% o'r boblogaeth. Y lleiafrifoedd ethnig mwyaf eu maint yw'r Hwngariaid (6.5%) a'r Roma (3.3%).[33][34] Mwyafrif yw'r Hwngariaid yn siroedd Harghite a Covasna. Ymhlith y lleiafrifoedd eraill mae'r Wcreiniaid, yr Almaenwyr, y Tyrciaid, y Lipofiaid (Hen Gredinwyr o dras Rwsiaidd), yr Aromaniaid, y Tatariaid, a'r Serbiaid.[35] Ym 1930, trigai 745,421 o Almaenwyr yn Rwmania,[36] ond dim ond rhyw 36,000 sy'n byw yno heddiw.[35] Yn 2009 roedd tua 133,000 o fewnfudwyr yn Rwmania, yn bennaf o Foldofa a Tsieina.

Ieithoedd[golygu | golygu cod]

Iaith swyddogol Rwmania yw'r Rwmaneg, iaith Romáwns ddwyreiniol sy'n debyg i'r Aromaneg, y Megleno-Romaneg, a'r Istro-Romaneg, ond sy'n rhannu nifer o nodweddion â'r ieithoedd gorllewinol megis Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, a Phortiwgaleg. Mae 31 o lythrennau yn yr wyddor Rwmaneg. Siaredir Rwmaneg yn iaith gyntaf gan 85% o'r boblogaeth. Siaredir Hwngareg gan 6.2%, a'r Flach-Romani (tafodiaith Romani) gan 1.2%. Trigai 25,000 o siaradwyr Almaeneg brodorol a 32,000 o siaradwyr Tyrceg yn Rwmania, yn ogystal â 50,000 o siaradwyr Wcreineg [37] sy'n byw ger y ffin â'r Wcráin ac yn fwyafrif yn yr ardaloedd hynny.[38] Yn ôl y cyfansoddiad, mae rhaid i gynghorau lleol sicrháu hawliau iaith i holl leiafrifoedd y wlad, ac os yw'r lleiafrif ethnig yn cyfri am ddros 20% o'r boblogaeth yna ceir defnyddio'r iaith leiafrifol yn y llywodraeth, y llysoedd, a'r ysgolion.[39] Y Saesneg a'r Ffrangeg yw'r prif ieithoedd tramor a addysgir yn yr ysgol.[40] Yn 2012 roedd 31% o Rwmaniaid yn medru'r Sasneg, 17% yn medru'r Ffrangeg, a 7% yn gallu siarad Eidaleg.[41]

Crefydd[golygu | golygu cod]

Crefydd yn Rwmania (cyfrifiad 2011)
Crefydd Canran
Uniongrededd Dwyreiniol
  
81.0%
Pabyddiaeth
  
4.3%
Eglwysi Diwygiedig
  
3.0%
Pentecostiaeth
  
1.8%
Eglwys Gatholig Groeg
  
0.7%
Bedyddwyr
  
0.6%
Adfentydd y Seithfed Dydd
  
0.4%
Arall
  
1.8%
Digrefydd
  
0.2%
Dim data
  
6.2%

Gwladwriaeth seciwlar a heb grefydd swyddogol yw Rwmania. Cristnogion yw'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth. Yn 2011 roedd 81% yn perthyn i Eglwys Uniongred Rwmania, 4.8% yn Brotestaniaid, 4.3% yn Babyddion, a 0.8% yn ffyddlon i Eglwys Gatholig Groeg Rwmania. O weddill y boblogaeth, mae 195,569 yn perthyn i enwadau Cristnogol eraill neu'n aelodau o grefydd arall, gan gynnwys 64,337 o Fwslimiaid (y mwyafrif o dras Dyrcaidd neu Dataraidd) a 3,519 o Iddewon. Yn ogystal, mae 39,660 yn anffydwyr neu fel arall yn ddigrefydd.[42]

Eglwys hunanbenaethol dan Batriarch yw Eglwys Uniongred Rwmania sy'n rhan o gymundeb yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol. Hon yw'r Eglwys Uniongred ail fwyaf yn y byd, ac yn wahanol i'r eglwysi eraill mae ganddi ddiwylliant Lladinaidd ac yn defnyddio iaith Romáwns yn ei litwrgi.[43] Mae ganddi awdurdod canonaidd dros holl diriogaeth Rwmania a Moldofa,[44] ac esgobaethau ar gyfer Rwmaniaid yn Serbia ac Hwngari yn ogystal â chymunedau ar wasgar yng Nghanolbarth a Gorllewin Ewrop, Gogledd America, ac Oceania.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Er bod hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol genedlaethol, mae diwylliannau'r rhanbarthau yn adlewyrchu gwahaniaethau hanesyddol. Gwelir dylanwad Awstria ac Hwngari ym mhensaernïaeth Transylfania a'r Banat: arddulliau Romanésg, Gothig, a Baróc. Cafodd y Slafiaid, yn bennaf yr Wcreiniaid a'r Rwsiaid, eu heffaith ar ardal Moldafia, a gwelir nodweddion o darddiad Tataraidd a phobloedd eraill Canolbarth Asia yng nghelfyddyd y werin. Trwy Walachia yn ne'r wlad daeth ddylanwad Môr y Canoldir: y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, y Bysantiaid a'r Otomaniaid. Mae'r lleiafrifoedd Hwngaraidd, Roma, ac Almaenig yn cadw at draddodiadau eu hunain o ran celfyddyd, coginiaeth, a gwisg.

Y Weinyddiaeth Diwylliant sy'n gyfrifol am gefnogi bywyd a sefydliadau diwylliannol ar draws Rwmania. Bwcarést yw canolfan ddiwylliannol y wlad ac yma lleolir sawl theatr, tŷ opera, y Gerddorfa Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig George Enescu, yr Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, Amgueddfa Byd Natur Grigore Antipa, Amgueddfa'r Werin, Amgueddfa'r Pentref, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Ganolog Prifysgol Bwcarést, a Llyfrgell Academi Rwmania. Mae gwyliau cenedlaethol Rwmania yn cynnwys y flwyddyn newydd (1 ac 2 Ionawr), y Llun wedi'r Pasg, Gŵyl Fai (mărțișor), y Diwrnod Cenedlaethol (1 Rhagfyr, sy'n dathlu uno Transylfania â gweddill y wlad), a Dydd y Nadolig.

Rheolir nifer o arferion a thraddodiadau gan grefydd y gymuned. Mae'r Rwmaniaid ethnig yn cynnal seremonïau yn ôl yr arfer Uniongred Ddwyreiniol yn ystod Wythnos y Grog a'r Pasg. Mae'r Hwngariaid ac Almaenwyr, sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol ac eglwysi Protestannaidd, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddathlu'r Nadolig. Cedwir y wisg werin Rwmanaidd yng nghefn gwlad, ac mae gan bob sir bron ei lliw ac arddull leol. Cyfunir y grefft a'r gelfyddyd gan arferion y werin: cerfweithiau pren, gwisg addurnedig, brodwaith, carpedi, a chrochenwaith. Mae Rwmania yn enwog am ei wyau Pasg addurnedig a phaentio ar wydr.

Coginiaeth[golygu | golygu cod]

Cafwyd dylanwad sylweddol ar goginiaeth Rwmania gan draddodiadau'r Tyrciaid a'r Groegiaid. Prif fwyd y werin ers talwm yw cawl a ballu: cawl cig, llysiau a nwdls, cawl bresych tew, a stiw cig moch gyda garlleg a winwns. Am damaid melys bwyteir crwst plăcintă, baclafa, neu deisen almon o'r enw saraille. Mae gwin o ardal Moldafia yn boblogaidd, a cheir cyrfau lleol ar draws y wlad. Diod archwaeth gryf yw palincă, sef brandi eirin sy'n ffurf ranbarthol ar wirod sy'n boblogaidd ar draws Basn Carpathia.

Celf, cerdd a llên[golygu | golygu cod]

Offerynnau cerdd traddodiadol y wlad yw'r cobza (sy'n debyg i liwt), y tambal (dwlsimer), y flaut (ffliwt), yr alpgorn, y bibgod, a'r nai (pibau Pan). Mae'r gerddoriaeth werin yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, y doina (galarganeuon), baledi, a cherddoriaeth fugeiliol. Daeth sawl arlunydd a llenor Rwmanaidd i sylw'r byd yn y 19g, gan gynnwys y beirdd Mihail Eminescu a Tudor Arghezi, y llenor a chwedleuwr Ion Creanga, yr arlunydd Nicolae Grigorescu, a'r dramodydd Ion Luca Caragiale. Ymfudodd nifer o artistiaid a deallusion Rwmanaidd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y dramodydd Eugène Ionesco, y bardd a thraethodydd Andrei Codrescu, yr athronydd Emil Cioran, y llenor a chyfarwyddwr ffilm Petru Popescu, y cerflunydd Constantin Brancusi, a'r hanesydd Mircea Eliade. Roedd yn rhaid i'r holl gelfyddydau cydymffurfio â Realaeth Sosialaidd yn ystod yr oes gomiwnyddol.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Gêm bat a phêl o'r enw oină yw mabolgamp draddodiadol Rwmania. Pêl-droed yw'r gamp fwyaf poblogaidd, a saif meysydd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt timau yn y gynghrair genedlaethol. Bu'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn llwyddiannus iawn ar adegau, yn enwedig yn y 1990au dan gapteiniaeth Gheorghe Hagi. Fel arfer mae Rwmaniaid yn chwarae a hamddena mewn clybiau, a'r gweithgareddau mwyaf boblogaidd yw seiclo, pêl-droed, pêl-law, tenis, rygbi, a'r crefftau ymladd. Mae Mynyddoedd Carpathia yn denu dringwyr a heicwyr yn yr haf, a sgïwyr ac eirfyrddwyr yn y gaeaf. Yn Aberdir y Donaw mae gwylwyr adar wrth eu helfen, ac mae nofwyr yn heidio i'r traethau ar lannau'r Môr Du pan bo'r tywydd yn braf.

Er i Rwmania ddanfon un athletwr i Gemau Olympaidd yr Haf 1900, ni chafwyd carfan sylweddol gan y wlad tan Gemau'r Haf ym 1924. Cystadleuodd Rwmania ym mhob un Olympiad ers hynny ac eithrio Gemau'r Haf 1932, Gemau'r Haf 1948, a Gemau'r Gaeaf 1960. Rwmania oedd yr unig wlad yn y Bloc Dwyreiniol i fynychu Gemau'r Haf yn Los Angeles ym 1984 wedi i'r Undeb Sofietaidd datgan boicot yn erbyn yr Americanwyr. Y cystadleuydd enwocaf o'r wlad yw Nadia Comăneci, a enillodd chwe medal gymnasteg yng Ngemau'r Haf 1974 ac hi oedd y cyntaf i sgorio'r deg perffaith yn y Gemau Olympaidd. Ymhlith athletwyr o fri eraill mae timau rhwyfo'r dynion a'r menywod, yr athletwraig Iolanda Balaș, a'r chwaraewr tenis Ilie Năstase.

Y cyfryngau[golygu | golygu cod]

Ffynodd y cyfryngau torfol a lleol yn Rwmania yn sgil Chwyldro 1989, er i nifer o gyhoeddiadau derfyn o ganlyniad i gwymp economaidd yn y ddegawd olynol. Cyhoeddir y papurau newydd cenedlaethol Libertatea ("Rhyddid"), Jurnalul Naţional ("Cyfnodolyn Cenedlaethol"), Adevărul ("Y Gwir"), ac Evenimentul Zilei ("Digwyddiadau'r Dydd") yn ddyddiol ym Mwcarést, a Monitorul Oficial ("Sylwedydd Swyddogol") yw newyddiadur y llywodraeth. Rompres yw asiantaeth newyddion swyddogol y wlad. Lansiwyd y gwasanaeth Media Fax, cwmni preifat, ym 1991. Lleolir adrannau o asiantaethau newyddion tramor, er enghraifft y BBC, yn y brifddinas. Rheolir rhwydwaith radio a theledu cenedlaethol gan y wladwriaeth, a cheir hefyd nifer o sianeli preifat, megis PRO-TV. Mae'r cyfansoddiad yn haeru i sicrháu rhyddid y wasg, ond gwelir y llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar y cyfryngau ac yn erlyn newyddiadurwyr am resymau gwleidyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Romania at a glance (Adroddiad). NATO. http://www.nato.int/invitees2004/romania/glance.htm. Adalwyd 5 Chwefror 2017.
  2. (Saesneg) "Romania Geography". aboutromania.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-28. Cyrchwyd 5 Chwefror 2017.
  3. (Rwmaneg) "POPULAŢIA REZIDENTĂ1" (PDF). Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol Rwmania. Cyrchwyd 5 Chwefror 2017.
  4. "Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 1998; New Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 2002" (yn Rwmaneg). Dexonline.ro. Cyrchwyd 25 Medi 2010.
  5. Verres, Andréas. Acta et Epistolae. I. t. 243. nunc se Romanos vocant
  6. Cl. Isopescu (1929). "Notizie intorno ai romeni nella letteratura geografica italiana del Cinquecento". Bulletin de la Section Historique XVI: 1–90. ""... si dimandano in lingua loro Romei ... se alcuno dimanda se sano parlare in la lingua valacca, dicono a questo in questo modo: Sti Rominest ? Che vol dire: Sai tu Romano, ...""
  7. Holban, Maria (1983). Călători străini despre Țările Române (yn Romanian). II. Ed. Științifică și Enciclopedică. tt. 158–161. Anzi essi si chiamano romanesci, e vogliono molti che erano mandati quì quei che erano dannati a cavar metalli ...CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Cernovodeanu, Paul (1960). Voyage fait par moy, Pierre Lescalopier l'an 1574 de Venise a Constantinople, fol 48. Studii și materiale de istorie medievală (yn Romanian). IV. t. 444. Tout ce pays la Wallachie et Moldavie et la plus part de la Transilvanie a eté peuplé des colonies romaines du temps de Traian l'empereur ... Ceux du pays se disent vrais successeurs des Romains et nomment leur parler romanechte, c'est-à-dire romain ...CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. Ion Rotaru, Literatura română veche, "The Letter of Neacșu from Câmpulung" (Bwcarést, 1981), t. 62–65
  10. Brezeanu, Stelian (1999). Romanitatea Orientală în Evul Mediu. Bucharest: Editura All Educational. tt. 229–246.
  11. Yn 1816, cyhoeddodd yr ysgolhaig Groegaidd Dimitrie Daniel Philippide yn Leipzig ei gyfrol Hanes Rwmania, a ddilynwyd gan Daearyddiaeth Rwmania.
  12. See, for example, "Rumania: Remarkable Common Ground", The New York Times, 21 Rhagfyr 1989.
  13. See the Google Ngrams for Romania, Rumania, and Roumania.
  14. "General principles" (yn Romanian). cdep.ro. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-07. Cyrchwyd 7 Medi 2009.CS1 maint: unrecognized language (link)
  15. BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
  16. (Rwmaneg) Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002 Archifwyd 2007-02-16 yn y Peiriant Wayback. PDF
  17. "IMF". Ebrill 2023.
  18. "World Bank Country and Lending Groups". The World Bank.
  19. Eurostat https://ec.europa.eu/eurostat/databrowser/view/PRC_PPP_IND__custom_7358921/default/table?lang=en. Missing or empty |title= (help)
  20. Romanian Statistics Office (PDF) https://web.archive.org/web/20080216015144/http://www.insse.ro/cms/files/statistici/comunicate/pib/pibr06.pdf. Missing or empty |title= (help)
  21. "Romania to get next instalment of bailout". New York Times. 1 Tachwedd 2010.
  22. "GDP per capita, PPP - Romania". The World Bank.
  23. "National Institute of statistics - Romania" (PDF).
  24. "In January 2017, the seasonally adjusted unemployment rate was estimated at 5.4%" (PDF).
  25. "Industrial production up by 0.4% in euro area and EU27" (PDF). Eurostat. 12 Ebrill 2013.
  26. "Romania". 2005 Index of Economic Freedom.
  27. "Rise in overall tax burden in the EU27 to 39.6% of GDP in 2005" (PDF). Eurostat. 26 Mehefin 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.
  28. "Romania: Share of economic sectors in the gross domestic product (GDP) from 2012 to 2022". Statista. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.
  29. "Farmers in the EU - statistics". Eurostat. Awst 2017. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.
  30. "FDI stock in Romania approaches EUR 84 bln". Business Review. 5 Medi 2019. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.
  31. "Romania wants to push euro adoption by 2026". Euractiv. 20 Mawrth 2023. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.
  32. "Romania External Debt". CEIC.
  33. 2002 census data, based on population by ethnicity, gave a total of 535,250 Roma in Romania. Many ethnicities are not recorded, as they do not have ID cards. International sources give higher figures than the official census (e.g., UNDP Regional Bureau for Europe Archifwyd 2013-11-01 yn y Peiriant Wayback., World Bank Archifwyd 2006-08-24 yn y Peiriant Wayback., "International Association for Official Statistics" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-02-26. Cyrchwyd 2017-02-05.
  34. "European effort spotlights plight of the Roma". usatoday. 10 Chwefror 2005. Cyrchwyd 31 Awst 2008.
  35. 35.0 35.1 (yn Romanian) Official site of the results of the 2002 Census (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 5 Chwefror 2012. https://web.archive.org/web/20120205002157/http://www.recensamantromania.ro/rezultate-2. Adalwyd 31 Awst 2008.
  36. "German Population of Romania, 1930–1948". hungarian-history.hu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-17. Cyrchwyd 7 Medi 2009.
  37. "2011 census results by native language" (xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. Cyrchwyd 2015-05-05.
  38. "IARNA UCRAINEANĂ - Află care sunt localitățile din Maramureș în care se prăznuiesc sărbătorile de iarnă după rit vechi", Infomm.ro, http://infomm.ro/ro/detalii/in-maramures-aproape-31-000-ucraineni-petrec-sarbatorile-de-iarna, adalwyd 5 Mai 2015
  39. "Constitutia României". Cdep.ro. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-07. Cyrchwyd 29 Awst 2011.
  40. "Two-thirds of working age adults in the EU28 in 2011 state they know a foreign language" (PDF). Eurostat. 26 Medi 2013. Cyrchwyd 21 Awst 2014.
  41. "Europeans and their Languages: Report" (PDF). Eurostat. 2012. Cyrchwyd 21 Awst 2014.
  42. "2011 census results by religion" (xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. Cyrchwyd 2015-05-05.
  43. Profiles of the Eastern Churches at cnewa.org
  44. European Court of Human Rights - Case of Metropolitan Church of Bessarabia

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]