Eidaleg
Oddi ar Wicipedia
| Eidaleg (Italiano) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | Yr Eidal a mewn 29 o wledydd eraill. |
| Parth: | De Ewrop |
| Cyfanswm o siaradwyr: | 74 miliwn |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 21 |
| Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Yr Eidal, Yr Undeb Ewropeaidd, Y Swistir, San Marino, Slofenia, Fatican, Swydd Istria (Croatia) |
| Rheolir gan: | Accademia della Crusca |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | it |
| ISO 639-2 | ita |
| ISO 639-3 | ita |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Eidaleg (Eidaleg: Italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%)[1]. Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd na sydd yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.
[golygu] Ymadroddion cyffredin
- italiano : Eidaleg
- gallese : Cymraeg
- inglese : Saesneg
- 'salve! : helô! / hwyl fawr! (Gallwch ddweud salve! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ciao!: shwmâi! / hwyl! (yn debyg i salve! ond yn anffurfiol)
- saluti! : cyfarchion! (yn debyg i salve! ond yn fwy ffurfiol)
- come sta? : sut mae?
- buon giorno!: bore/p'nawn da!
- buona sera! : noswaith dda!
- arrivederci!: da boch chi! / Hwyl fawr!
- buona notte! : nos da!
- mi scusi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- permesso! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- prego? : esgusodwch fi? (os ydych chi ddim wedi deall)
- per favore / per piacere: os gwelwch chi'n dda
- grazie: diolch
- no grazie : dim diolch!
- molto grazie / tante grazie : diolch yn fawr
- prego! : da chi! (pan fydd rhywun yn dweud grazie!, atebwch gyda prego!.)
- mi dispiace: mae'n flin gen i
- si : ïe / do / oes etc.
- no : nage / naddo / nag oes etc.
- salute! / cin-cin!: Iechyd da!
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Eurobarometer – Europeans and their languages, Chwefror 2006
Argraffiad Eidaleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd