Cyngor Ewrop
Corff rhyngwladol o 46 gwlad yw Cyngor Ewrop. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd sydd yn barod i dderbyn egwyddor cyfraith a threfn, sicrhau iawnderau dynol sylfaenol a rhyddid ei dinasyddion. Lleolir y pencadlys yn ninas Strasbourg, Ffrainc.
Mae'n bwysig peidio cymysgu Cyngor Ewrop â Chyngor yr Undeb Ewropeaidd neu â'r Cyngor Ewropeaidd, gan fod Cyngor Ewrop yn gorff cwbl gwahanol a chanddo ddim i'w wneud a'r Undeb Ewropeaidd.
Aelodaeth [golygu]
Sefydlwyd ar 5 Mai 1949 gan Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden a'r Deyrnas Unedig. Daeth Gwlad Groeg a Twrci yn aelodau tri mis wedyn, a Gwlad yr Ia a'r Almaen y flwyddyn ganlynol. Erbyn hyn mae 47 aelod-wladwriaeth; Montenegro oedd yr un diweddaraf i ymuno.
Mae Erthygl 4 o Statudau Cyngor Ewrop yn datgan bod aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd. Dim ond Belarws sy ddim yn aelod bellach.
Ymgeisyddion [golygu]
Statws Gwesteuon Arbennig oedd gan senedd Belarus Medi 1992 tan Ionawr 1997, ond ers etholiadau 'anheg' a phroblemau ym 1996 maent yn 'suspended'.
Derbynnwyd cais Kazakhstan am Statws Gwesteuon Arbennig yn 1999. Penderfynnwyd eu bod yn rhan o Ewrop. Llofnodwyd Kazakhstan cytundeb i cydymffurfio a'r Cyngor.