Gwladwriaeth

Oddi ar Wicipedia

Cyfundrefn wleidyddol gydag awdurdod dros diriogaeth ydy gwladwriaeth. Yn y byd modern, mae'r term bron yn gyfystyr â sofraniaeth. Weithiau caiff ei ddefnyddio yn gyfystyr â gwlad (bro ddaearyddol), ond nid â chenedl (bro ddiwylliannol).

Yn fewnwladol, pwrpas y wladwriaeth yw i ddarparu fframwaith o gyfraith a threfn i gadw ei thrigolion yn ddiogel, ac i weinyddu materion sydd yn berthnasol i'r wladwriaeth. Felly, mae gan y mwyafrif o wladwriaethau sefydliadau megis deddfwrfa neu gyrff deddfwriaethol, llysoedd barn, a heddlu ar gyfer defnydd mewnol, a lluoedd arfog i sicrhau diogelwch allanol. Yn y ddwy ganrif ddiwethaf, derbyniodd y mwyaf o wladwriaethau cyfrifoldeb dros nifer fawr o faterion cymdeithasol, ac felly datblygodd gysyniad y wladwriaeth les. Ar adegau gwahanol yn hanes mae rhai wladwriaethau wedi ymyrryd ar hawliau grwpiau ac unigolion yn fwy nag eraill. Bu wladwriaethau totalitaraidd megis yr Undeb Sofietaidd Gomiwnyddol a'r Almaen Natsïaidd yn rheoli rhyddid barn.

Hanes y cysyniad[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ddatblygiad cysyniad y wladwriaeth yng Ngroeg yr Henfyd gydag ymddangosiad gwladwriaethau dinas. Ystyriodd yr athronwyr Aristotlys a Phlaton y gwladwriaethau hyn fel cymunedau yn hytrach na sefydliadau gwleidyddol yn unig. Trafododd Platon gwladwriaeth ar ffurf gweriniaeth yn ei lyfr Y Weriniaeth.

Arweiniodd yr angen milwrol i greu a chadw gwladwriaethau cynnar at ddatblygiad cyfundrefnau awdurdodaidd, a dywedodd rhai bod angen aberthu rhyddid unigolion er trefn, ond wedi'i wneud mewn ffyrdd sy'n parchu lles holl grwpiau'r gymdeithas. O'r unfed ac ail ganrifoedd ar bymtheg ymlaen, gwelwyd adnabyddiaeth gynyddol o'r wladwriaeth â dinasyddion gyda rhyw hunaniaeth ddiwylliannol debyg, yn ogystal â chynydd yn nheimladau cenedlaetholgar a dymuniad pobl i reoli eu hunain, ac felly ymddangosodd cysyniad y wladwriaeth genedl. Datblygodd Jean Jacques Rousseau a Georg Wilhelm Friedrich Hegel cysyniadau ideolegol am allu'r genedl i gyflwyno cyfreithlondeb ar ei hunan a'i gweithredoedd.

Y wladwriaeth fel undeb[golygu | golygu cod]

Un o nodweddion y wladwriaeth yw, mewn theori, gall fodoli fel undeb o genhedloedd. Ond y gwrthwynebiad i'r posibilrwydd hwn yw cenedlaetholdeb a dymuniad cenhedloedd i fodoli fel gwladwriaethau eu hunain. Cwympodd yr Undeb Sofietaidd oherwydd teimladau dinasyddion nad oedd symbolaeth nac ideoleg y wladwriaeth yn berthnasol iddynt. Mae cenhedloedd o fewn gwladwriaethau cyfoes Canada, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Sbaen hefyd o blaid annibyniaeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  O Vaughan i Fynwy. BBC Arlein (24 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 11 Chwefror, 2007.
Chwiliwch am gwladwriaeth
yn Wiciadur.