Dinas-wladwriaeth

Oddi ar Wicipedia

Dinas sy'n wladwriaeth annibynnol yw dinas-wladwriaeth. Gall fod yn wladwriaeth ddemocrataidd neu'n frenhiniaeth. Roedd dinas-wladwriaethau yn nodweddiadol o fywyd gwleidyddol Groeg yr Henfyd, yng Ngwlad Groeg ei hun (na fu'n wladwriaeth gyfunol tan iddi ennill annibyniaeth) ac yn ei threfedigaethau allanol yn Asia Leiaf, Sisili, de'r Eidal a mannau eraill ar arfordir y Môr Canoldir a'r Môr Du. Ceir enghreifftiau eraill o ddinas-wladwriaethau yn yr Henfyd yn ogystal, er enghraifft yn India. Gellid cyfrif sawl gwlad fechan yn y byd heddiw yn ddinas-wladwriaeth o ryw fath, er enghraifft Singapôr, San Marino a Dinas Fatican.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.